Te Prynhawn Gwesty Cymru i gangen Aberystwyth

Cangen Aberystwyth o Ferched y Wawr yn cwrdd am y tro cyntaf ers y cyfnod clo

Dyma gyfarfyddiad cyntaf cangen Merched y Wawr Aberystwyth ers cyn argyfwng COVID – arwydd fod pethau ar wella. Mae’r aelodau wedi bod yn weithgar fodd bynnag yn helpu gydag ymgyrchoedd fel siarad Cymraeg gyda dysgwyr, cystadlu ac wrth gwrs, rysetiau Curo Corona’n Coginio.

Gwesty Cymru oedd y lleoliad, gyda Julian Shelley (perchennog newydd Gwesty Cymru) a’i staff yn darparu danteithion i’r 28 oedd yn mynychu. Roedd Gwesty Cymru yn falch o gael croesawu criw lleol.

Falle nad oedd y tywydd ar ei orau, ond o leiaf doedd hi ddim yn bwrw glaw, ac roedd te a sgons ar gael i bawb. Cynhaliwyd cwis i’r 28 a wnaeth fynychu a mwynhaodd pawb yn fawr.

Mae Merched Y Wawr Aberystwyth yn gangen weithgar sydd yn cwrdd y trydedd nos Lun o bob mis.

Os ydych chi am ymuno gyda’r gangen – beth am glicio yma am fwy o fanylion.