Pleidleisio am y tro cyntaf!

Barn pobl ifanc ar etholiad Senedd 2021

gan Ifan Wyn Erfyl Jones
20190225_135307

Senedd Cymru

Gydag etholiad Senedd Cymru yn agosáu, holais dri pherson ifanc, ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n bwriadu pleidleisio am y tro cyntaf eleni.

Mae’r  etholiad yma yn un hanesyddol wrth i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.

Er bod amheuaeth o amgylch amseriad yr etholiad yn sgil effeithiau coronafeirws, bwriedir ei gynnal ym mis Mai.

Ond beth sy’n bwysig i bobl ifanc wrth iddynt benderfynu pa blaid fydd yn cael ei pleidlais? Holais y tri am y materion pwysicaf iddyn nhw, gan gynnwys cefnogaeth i annibyniaeth. Mater hynod boblogaidd ymysg pobl ifanc Cymru.

Elain Gwynedd, Cymraeg.

“Mae cefnogi annibyniaeth i Gymru yn ffactor allweddol i mi wrth benderfynu pwy fydd yn cael fy mhleidlais yn yr etholiad.”

“Dwi eisiau byw mewn Cymru rydd a chryf, felly mi fuasai’n wirion i mi beidio pleidleisio dros blaid sydd yn gweld annibyniaeth i Gymru fel eu prif nod.”

“Yn ychwanegol, mae cefnogaeth pleidiau gwleidyddol ar faterion cyfoes a phwysig fel Black Lives Matter ac achub yr amgylchedd yn allweddol yn y broses o benderfynu sut i bleidleisio.”

Ifan Emyr, Daearyddiaeth.

“Yn etholiad Senedd Cymru, mae pwysigrwydd cefnogi plaid sydd dros annibyniaeth yn enfawr i mi wrth benderfynu sut i bleidleisio.”

“Mae materion eraill hefyd yn bwysig wrth benderfynu gan gynnwys; safbwynt y blaid ar gytundeb Paris, aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau ar gyfer allforio dŵr ac egni.”

Aaron Clwyd, Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

“I mi mae’n holl bwysig cefnogi annibyniaeth a’r blaid sy’n cefnogi hynny fydd yn cael fy mhleidlais i, does ’na ddim dyfodol i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig.”

“Mae hefyd angen polisi clir ar sut i ddelio gyda’r argyfwng tai gyda mwy o gymorth i bobl ifanc. Mae cymunedau Cymraeg eu hiaith angen cael eu hamddiffyn gan sicrhau nad ydi pobl ifanc yn gorfod gadael.”

Mae’n amlwg fod annibyniaeth yn ffactor enfawr wrth i bobl ifanc Cymru benderfynu pa blaid sy’n cael eu pleidlais. Mae materion cyfoes yn cynnwys newid hinsawdd a’r argyfwng tai haf hefyd yn ddylanwad mawr. Bydd hi’n ddiddorol gweld pa effaith caiff pleidleisiau pobl ifanc, wrth iddynt gael pleidleisio am y tro cyntaf, yn etholiad Senedd Cymru.