Plascrug ar y brig yng Ngŵyl Ymchwil gyntaf y Brifysgol

Cannoedd o ddisgyblion ysgol yn ymgeisio mewn cystadleuaeth trafod newid hinsawdd

Mae disgyblion o Ysgol Plascrug yn Aberystwyth ymysg enillwyr cystadleuaeth newid hinsawdd a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth.

Roedd y gystadleuaeth yn rhan o Ŵyl Ymchwil gyntaf y Brifysgol, a fu’n trafod heriau newid hinsawdd wrth i arweinwyr byd baratoi i ymgynnull yn Glasgow ddechrau fis Tachwedd ar gyfer uwch-gynhadledd COP26.

Roedd dyluniadau a chyflwyniadau’r enillwyr yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu’r blaned.

Dywedodd Prifathro Ysgol Plascrug, Berian Huw Lewis:

“Mae trin a thrafod yr amgylchedd yn rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i’n pobl ifanc. Mae’r disgyblion wedi mwynhau dysgu mwy am yr her sy’n ein hwynebu i ni gyd. Mae’n wych o beth bod y Brifysgol wedi cynnal y prosiect hwn sydd wedi bod o fudd mawr i’r disgyblion.”

Enillodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o Ysgol Plasgrug – Emily Tiley, Ella Worthington, Isabelle Butler, Ovima Vimal – yn ogystal â Glesni Rees ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Bro Pedr, y gwobrau am lunio’r poster a’r cyflwyniad ar-lein gorau ar newid hinsawdd.

Cymerodd cannoedd o ddisgyblion ysgol ym mlynyddoedd 5 i 8 ran yn y gystadleuaeth a’r her iddynt oedd llunio poster yn trafod y newid yn yr hinsawdd gan ystyried beth allwn ni ei wneud yn ein bywydau bob dydd ac yn ein hardaloedd lleol wrth geisio lleddfu ei effaith.

Yn ogystal a hyn, roedd yn rhaid iddynt wneud cyflwyniad rhithiol am eu syniadau i staff y Brifysgol.

Yn dilyn eu llwyddiant, mae Emily, Ella, Isabelle, Oriya a Glesni wedi ennill taith ar gwch ymchwil y Brifysgol.

Ychwanegodd Dr Siân Lloyd-Williams, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau mawr i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth, ac i’r enillwyr. Roedd y safon yn uchel iawn gyda llawer o bosteri wedi eu dylunio’n greadigol ac effeithiol. Yn ogystal, roedd yn amlwg fod y disgyblion wedi cael hwyl wrth ymchwilio i’r pwnc hwn ac roedd llawer o wybodaeth ar gael ar y posteri amrywiol.

“Wrth i arweinwyr rhyngwladol ymgynnull ym Mhrydain i drafod gweithredu byd eang, mae’n hynod o bwysig bod pobl ifanc yng nghanol y drafodaeth a’r ystyriaethau.  Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’n planed, ac fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i ymgymryd ag ymchwil sy’n helpu i ddatblygu atebion ar gyfer y byd go iawn. Un o brif amcanion yr Ŵyl yw ymwneud â chymunedau lleol ynghyd â rhannu syniadau a mewnwelediadau. Rydyn ni eisiau hyrwyddo deialog gadarnhaol rhwng ein prifysgol a’r gymuned yn ehangach. Rydyn ni’n gobeithio bod y gystadleuaeth hon wedi codi ymwybyddiaeth ymysg ein pobl ifanc yn lleol o’r heriau sy’n ein hwynebu fel planed.”

Bydd hanes yr enillwyr i’w chlywed ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ar fore Llun 1 Tachwedd. Cofiwch wrando.