Philip Pullman yn galw am lyfrgell i bob ysgol mewn seremoni

Seremoni dathlu gwobr Mary Vaughan Jones i Menna Lloyd Williams

Mewn seremoni dathlu gwobr Mary Vaughan Jones, galwodd Philip Pullman, a fu’n byw tra’n blentyn yn Llanbedr, Harlech, am lyfrgell ym mhob ysgol. Nododd pa mor bwysig iddo oedd cael llyfrau o fan lyfrgell Cyngor Gwynedd tra roedd yn Ysgol Ardudwy.

Nodwyd wythnos diwethaf mai Menna Lloyd Williams oedd enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones eleni.

Mewn fideo a gyhoeddwyd heno, cafwyd cyfraniadau gan Philip Pullman, Casia William, Daniel Evans, Geraint Lewis, a phlant aelwyd Ynys Môn. Cyfraniadau gwerth eu gwylio.

Fel arfer, cynhelir digwyddiad byw, a bob tair blynedd, mae Cyngor Llyfrau Cymru’n cyflwyno’r wobr er cof am Mary Vaughan Jones. Mary wrth gwrs oedd awdur Sali Mali a’i ffrindiau, a fu farw yn 1983, i berson sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant. Gyda cyfyngiadau COVID, roedd yn well creu fideo i nodi cyfraniad Menna, ond sydd hefyd yn golygu fod modd i bawb ei wylio.

Menna y Cardi mabwysiedig

Er mai o Lanfaethlu ar Ynys Môn mae Menna yn wreiddiol, daeth i Aberystwyth fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg.

Ar ôl dilyn cwrs ymarfer dysgu, bu’n athrawes am flwyddyn yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, cyn cael ei phenodi’n Bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn 1970.

Bu’n gyfarwyddwr Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, y ganolfan gyntaf o’i math yng ngwledydd Prydain, cyn mynd i weithio gyda’r Cyngor Llyfrau.

Yn ystod ei chyfnod gyda’r Cyngor Llyfrau, bu’n bennaf gyfrifol am drefnu cynadleddau blynyddol i drafod gwahanol agweddau ar lenyddiaeth plant, Gwobrau Tir na n-Og, clybiau llyfrau, a chystadlaethau darllen i ysgolion.

Bydd nifer ohonoch yn ei nabod o Benrhyn-coch i’w chartref presennol ar y Waun. Ni bia Menna ac rydym yn falch iawn ei bod yn cael y cyfraniad arbennig yma.

Dywedodd Menna Lloyd Williams ei bod hi’n “anrhydedd o’r mwyaf” derbyn y wobr eleni.

“Roedd pob diwrnod o weithio ym maes llyfrau plant yn bleser pur.

Rwy’n parhau i ymddiddori yn y maes ac yn cael mwynhad arbennig bellach yn casglu argraffiadau cyntaf, clawr caled, wedi eu harwyddo gan yr awduron a’r darlunwyr – yn eu mysg, llyfrau Roald Dahl wedi eu harwyddo gan Quentin Blake ac un o’m trysorau pennaf, argraffiad cyntaf o Sali Mali gan Mary Vaughan Jones.”