Perfformiad Meistrolgar Matty

Aberystwyth 4 – 1 Derwyddon Cefn 25/09/2021

gan Gruffudd Huw
Owain Jones a Raul Correia'n Dathlu
Matthew Jones yn sgorio o'r smotyn

Matthew Jones yn sgorio o’r smotyn

Louis Bradford yn amddiffyn

Louis Bradford yn amddiffyn

Jonathan Evans yn ymosod lawr yr asgell

Jonathan Evans yn ymosod lawr yr asgell

Ar ôl canlyniad siomedig yng Nghwpan Nathaniel MG yn erbyn Met Caerdydd ganol wythnos, roedd Aber yn gobeithio parhau â’u rhediad yng Nghwpan Cymru drwy ennill yn erbyn Derwyddon Cefn. Gyda thîm cryf wedi’i gyhoeddi a Lee Jenkins a Harry Franklin yn ôl ar y fainc yn dilyn eu hanafiadau, roedd hi’n edrych yn addawol i’r tîm cartref.

Gwelwyd dechreuad anhygoel i Aber gyda chwpwl o gyfleoedd o fewn chwinciad i ddechrau’r gêm. Roedd Raul Correia’n achosi pen tost i’r amddiffyn gan greu dau gyfle clir ar ôl 5 a 7 munud, ond arbedwyd y ddwy ergyd gan Jones yn y gôl i’r Derwyddon.

Cymerodd Aber fantais o linell uchel amddiffyn y Derwyddon ac fe ddaeth y cyfleoedd un ar ôl y llall. Ar ôl 12 munud, cafodd Correia gyfle gorau’r gêm hyd yn hyn. Pasiodd Matty Jones y bêl ar draws y cae tuag at Jack Rimmer. Rhedodd Rimmer i lawr yr asgell dde a groesodd tu ôl i’r amddiffyn tuag at Correia, ond methodd yr ymosodwr gan saethu’r bêl fodfeddi’n llydan.

Roedd amddiffyn y Derwyddon yn gwegian dan yr holl bwysau ac ar ôl 17 munud fe agorwyd y sgorio. Gwrthymosododd Aber yn berffaith gan greu cyfle gwych i Owain Jones a oedd wedi sleifio tu ôl i’r amddiffyn. Roedd raid i’r golwr ddod oddi ar ei linell i gwrdd â Jones, ond wrth i’r bêl adlamu o’i flaen, cododd Jones y bêl yn gelfydd dros y golwr ac i mewn i’r rhwyd.

Wedi 29 munud o chwarae, enillodd Aber gic o’r smotyn ar ôl i Correia gael ei lorio yn y cwrt cosbi. Matty Jones oedd yr un i gymryd y gic ac fe blannodd y bêl yn gyfforddus i mewn i’r rhwyd gan ddyblu mantais y tîm cartref.

Roedd y tân ym moliau Aber yn parhau a bu bron i Rhys Davies sgorio trydydd o gornel, ond peniodd dros y trawsbren. Enillwyd cic gornel arall wedi 45+3 munud o chwarae. Methodd y Derwyddon glirio’r bêl yn bellach na Matty Jones ar ymyl y cwrt ac ergydiodd Jones ar hanner foli. Taranodd y bêl heibio’r amddiffyn a’r golwr i mewn i’r rhwyd.

Yr ymwelwyr gafodd y dechrau gorau i’r ail hanner gydag Edge yn ergydio’n llydan ar ôl 46 munud a Davidson yn taro’r bêl dros y trawsbren ar ôl 48 munud. Er gwaethaf y newid ym momentwm y gêm, roedd Raul Correia yn dal i gael gêm wych gan redeg drwy’r amddiffyn ond methu’r targed.

Gyda’u mantais sylweddol, dechreuodd Aber ganolbwyntio mwy ar amddiffyn ac ni welwyd llawer o gyfleoedd tan yr 80 munud. Croeswyd y bêl i mewn i gwrt Gregor Zabret. Doedd dim ymosodwr yn y cwrt ac roedd hi’n edrych fel petai Zabret mynd i ddal y bêl yn gyfforddus ond adlamodd oddi ar ei frest. Gyda Ben Wynne yn cyrraedd yn hwyr i’r cwrt, doedd neb yn ei farcio a sgoriodd yn hawdd i’r Derwyddon.

Gyda’r gêm yn dod i ben, roedd y Derwyddon yn ceisio’u gorau i sgorio eto. Ond wedi 86 munud roedd Aber yn gwrthymosod unwaith eto a rhedodd Jonathan Evans drwy’r amddiffyn. Roedd Evans yn rhy gyflym iddynt ac fe’i lloriwyd yn y cwrt cosbi. Sgoriodd Matty Jones ei “hat-trick” gan sgorio o’r smotyn unwaith eto (yn fwy dibynadwy o’r smotyn nag ambell chwaraewr arall ddydd Sadwrn!).

Bu bron i Harry Franklin sgorio pumed ar ôl dod oddi ar y fainc ar ôl 90+1 munud o chwarae, ond roedd yn dal yn braf i’w weld yn ôl ar Goedlan y Parc!

Cyn i Aber gamu ymlaen i rownd nesaf Cwpan Cymru bydd yn rhaid iddynt deithio i chwarae tîm tipyn cryfach yn eu gêm Gynghrair nesaf, sef y Seintiau Newydd!