Parti Pentre’ yn dod â phawb ynghyd
Hyfryd oedd cael digwyddiad yn dod â chymuned ynghyd unwaith yn rhagor fel rhan o ddigwyddiadau BroAber360 ym Mhonterwyd.
Prynhawn ’ma, y 5ed o Fedi, daeth bobl o bob cwr o gymuned Blaenrheidol i fwynhau cerddoriaeth fyw gan y band lleol, y Smoking Guns, ar gae Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.
Daeth pawb â phicnic a diodydd eu hunain a chael cyfle i sgwrsio a chymdeithasu gyda phobl nad oeddynt wedi gweld ers amser yn dilyn y cyfyngiadau diweddar.
Roedd y gefnogaeth yn arbennig a diolchwn i bawb a fu ynghlwm gyda’r holl drefniadau. Dyma oedd gydag ambell un i ddweud:
“Noson arbennig yn gyfle i ddod a phawb at ei gilydd a chodi hwyl.”
“Band gwych yn siwtio bach o bawb. Pryd mae’r digwyddiad nesaf?”
“Diolch am drefnu digwyddiad yn y pentref. It was long over due.”
Gobeithio y bydd hyn yn ddechrau i sbarduno digwyddiadau yn y gymuned leol ac yn rhoi cyfle i ddod â phawb ynghyd – yn ôl rheolau yr hen Covid-19 wrth gwrs!