Newyddion da o Archifdy Ceredigion

Mae Archifdy Ceredigion, swyddfa gofnodion y sir, ar agor eto. 

Archifdy Ceredigion
gan Archifdy Ceredigion
IMG_4011

Ystafell ymchwil Archifdy Ceredigion

Mae Archifdy Ceredigion ar agor eto!

Mae pethau ychydig yn wahanol ar hyn o bryd ond mae’r croeso yr un mor gynnes i bawb. Mae’r ystafell ymchwil wedi’i haildrefnu i roi ardal ar wahân ar gyfer pob ymchwilydd, a chedwir y ffenestri ar agor er mwyn gadael digon o awyr iach i mewn.

Dim ond drwy drefnu apwyntiad y gellir ymweld â’r Archifdy. Ni chaniateir mwy na phedwar ymchwilydd ar y tro a sicrheir bod yr arwynebedd yn cael ei ddiheintio rhwng pob sesiwn. Gall ymwelwyr ffonio neu anfon e-bost i drefnu apwyntiad a bydd dogfennau’n barod pan fyddwch yn cyrraedd.

I’r bobl hynny sy’n teimlo nad ydynt yn barod i deithio i’r Archifdy, mae gwasanaeth ymholiadau o bell ar gael, ac mae llawer o bethau diddorol i’w darllen ar y wefan ac yn y blogiau: Archifdy Ceredigion.

Statws Archif Achrededig

Yn dilyn adolygiad llawn o’i wasanaethau, mae Archifdy Ceredigion wedi cadw ei Statws Archif Achrededig.

Mae’r broses yn cynnwys asesu ansawdd pob agwedd ar y gwasanaeth gan gynnwys llywodraethu, adeiladau a staff, a gofal casgliadau. Roedd y Panel Achredu yn cydnabod ac yn cymeradwyo cynnydd cadarn Archifdy Ceredigion, gan nodi’r datblygiadau cadarnhaol o ran storio, rheoli gwybodaeth a gwarchod a chadw casgliadau.

Mae Achrediad y Gwasanaeth Archifau yn rhoi sicrwydd ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan wasanaethau archif yn y DU. Cefnogir Achrediad y Gwasanaeth Archifau gan bartneriaeth sy’n cynnwys y Gymdeithas Archifau a Chofnodion (DU); Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru; Cofnodion Cenedlaethol yr Alban; Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus Gogledd Iwerddon; Cyngor yr Alban ar Archifau; Yr Archifau Gwladol; a Llywodraeth Cymru drwy ei hadran Diwylliant a Chwaraeon.

Gwasanaeth Ymholiadau o Bell

Mae Archifdy Ceredigion hefyd wedi derbyn cymeradwyaeth frwd gan y cyhoedd trwy arolwg y Gwasanaethau Ymholiadau o Bell a gynhelir bob dwy flynedd gan Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.

Darparodd yr Archifdy wasanaeth dros y ffôn a thrwy e-bost drwy gydol y cyfnod clo, a gwahoddodd y rhai a dderbyniodd y gwasanaeth i ymateb i’r arolwg cenedlaethol. Roedd yr ymatebion yn gadarnhaol iawn gan gynnwys sylwadau megis: “Mae’r gwasanaeth a dderbyniais yn ardderchog”, “Roedd y drafodaeth o’r ansawdd a’r proffesiynoldeb gorau ac fe’i gwerthfawrogir yn fawr”, a “Rydych chi wedi bod yn wych!”

Mae staff yr Archifdy’n falch iawn o’r adborth cadarnhaol. Mae Archifdy Ceredigion bellach ar agor o ddydd Llun tan ddydd Gwener, gyda dwy sesiwn ymchwil bob dydd.

Cysylltwch ag Archifdy Ceredigion ar 01970 633697 neu archives@ceredigion.gov.uk