Nadolig Llawen

Diolch am gefnogi’r Papur Bro yn ystod 2021

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
dolig_ddolen

Ledis Lizzie Spikes wedi ei lliwio’n hardd gan Alys Evans.

dolig_llangwyryfon1

Criw hyn Ysgol Llangwyryfon yn paratoi i’r gyngerdd.

dolig_llangwyryfon2

Criw iau ysgol Llangwyryfon yn mwynhau perfformio yn y gyngerdd.

IMG_4038

Disgo yn dosbarth Gelert, Ysgol Llanilar.

IMG_3983

Ceirw sioe Nadolig Ysgol Llanilar

IMG_3980

Corachod Sioe Nadolig Ysgol Llanilar

Ar noswyl Nadolig dyma i chi flas o weithgareddau Nadolig rhai o ysgolion bro Y DDOLEN. Diolch i’r saith ysgol am fod mor barod i ddanfon ymlaen eu newyddion a lluniau i’r papur bro bob amser

Llongyfarchiadau i Alys Evans (6 oed), Llanilar am ennill hamper crefft am Liwio’r Nadolig a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr.

Llongyfarchiadau i Iona Davies, Llanilar ar ennill Cwis yr Ŵyl y DDOLEN. Danfonir tocyn rhodd am de prynhawn i ddau atoch ar ddechrau’r flwyddyn.

Diolch am bob cyfraniad gwerthfawr i’n papur bro yn ystod 2021 a diolch i’n darllenwyr ffyddlon am ein cefnogi.

Nadolig llawen i chi gyd.

Criw Y DDOLEN