Nadolig Llanddeiniol

Dathlu’r Ŵyl yn y pentref

Enfys Medi
gan Enfys Medi
267285414_911539999351103

Santa a’i gorrach yng nghwmni merched CFfI Llanddeiniol

267315176_4642306899186378

Santa yn cael clonc gyda’r trigolion!

269076033_962735374679125

CFfI Llanddeiniol yn canu carolau o gwmpas y pentref.

264487214_651583889536151

CFfI Llanddeiniol yn canu carolau o gwmpas y pentref.

264687334_907250550165300

Coeden Nadolig Llanddeiniol 2021

Mae wedi bod yn benwythnos Nadoligaidd iawn ym mhentref Llanddeiniol!

Daeth Santa ar ymweliad a ni nos Sadwrn. Cafodd ei yrru drwy’r pentref ar drelar pwrpasol! Roedd hi mor braf gweld lot o drigolion wedi troi allan wrth yr Hen Ysgol i gyd canu carolau, gwrando ar gan Nadoligaidd wedi ei chanu gan ferched CFfI Llanddeiniol yn ogystal â mwynhau siocled poeth a ‘mulled wine’.

Gallodd pawb werthfawrogi coeden Nadolig y pentref wedi ei goleuo’n hardd a’u haddurno gydag addurniadau wnaed gan rai o aelodau CFfI Llanddeiniol.  

Cynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yng nghapel Elim brynhawn ddydd Sul dan ofal yr aelodau ar y thema synhwyrau’r Nadolig! Does dim llawer o gyfle wedi bod i gwrdd yn ystod 2021 felly roedd hwn yn ffordd ardderchog o ddod a’r flwyddyn i ben gyda gobaith o’r newydd i’n gweithgareddau yn 2022.

Roedd hi’n fendigedig clywed canu carolau nos Lun wrth i aelodau CFfI Llanddeiniol grwydro o gwmpas y pentref yn codi arian i elusen Arch Noa a Tir Dewi. Longyfarchiadau mawr iddynt ar godi £650 i’w rannu rhwng y ddwy elusen.

Edrychwn ymlaen nawr i’r gwasanaeth carolau ar noswyl Nadolig am 9.30pm yn Eglwys St Deiniol.

Nadolig Llawen i bawb oddi wrth drigolion Llanddeiniol.