80 mlynedd o amddiffyn buddiannau athrawon

UCAC yn dathlu eu pen-blwydd yn 80 mlwydd oed

Dilwyn Roberts-Young
gan Dilwyn Roberts-Young
UCAC yn 80

Ar ddechrau blwyddyn newydd, mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn ddiolchgar am yr 80 mlynedd diwethaf o wasanaethau a gwaith ei holl wirfoddolwyr a chefnogwyr. Mae hefyd yn gyflogwr pwysig i dref Aberystwyth.

Sylfaenwyd UCAC gan Gwyn M. Daniel, Cassie Davies, Eic Davies, Enid P. Jones, Victor Hampton Jones, Gwenan Jones, Evan John Jones a Griffith John Williams, gyda gweledigaeth o sefydlu undeb llafur gyda’r nod o:

  • Sicrhau cyfundrefn well o addysg i Gymru;
  • Diogelu buddiannau’r athro unigol.

Ym mis Rhagfyr 1940, daeth Tŷ’r Cymry, Ffordd Gordon, Caerdydd yn gartref i UCAC, cyn symud i Pen Roc, Aberystwyth ym mis Mehefin, 1983 ac yna i swyddfa ar Ffordd Penglais yn 2009.

Fel y dywed Dr. Rhodri Llwyd Morgan

Adeg ei sefydlu, roedd UCAC yn fudiad arloesol. UCAC oedd yr undeb llafur proffesiynol cyntaf i’w sefydlu yng Nghymru a hynny gan Gymry a thros Gymru. Cynrychiolai gorff a fynnai ganolbwyntio meddyliau ar anghenion addysgol a diwylliannol Cymru.”

Sefydlwyd UCAC mewn cyfnod pan oedd undebau llafur addysg eraill yn ymosodol yn eu gwrthwynebiad nid yn unig i’r Gymraeg ond i hunaniaeth Gymreig o fewn cwricwlwm. Fel y nododd dau o sylfaenwyr UCAC ar y pryd:

Ni allwn danysgrifio i unrhyw undeb proffesiynol sy’n gwrthod prif hawliau astudiaethau Cymreig yn ysgolion Cymru”. Yng ngeiriau T H. Evans, Llandudoch ar y pryd: “mae’n hen bryd inni sefyll ar ein sodlau ein hunain”.

Mae UCAC wedi bod yn gyfystyr â datblygiad addysg gyfrwng Cymru ledled Cymru gan gynnwys y rôl flaenllaw wrth ymgyrchu dros addysg uwch cyfrwng Cymraeg.  Mae’r Undeb wedi cynrychioli darlithwyr o’r cychwyn cyntaf gyda’r Dr Gwenan Jones a Dr Jac L. Williams yn gewri’r Undeb.

Mae ganddynt aelodau ym mhob sir gan gynrychioli athrawon, arweinwyr a darlithwyr addysg bellach ac uwch.

Dyma undeb sydd wedi bod yn llais allweddol, ac unig ar brydiau, wrth sicrhau:

  • Cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru;
  • Cwricwlwm penodol ar gyfer Cymru;
  • Cyflogau ac amodau gwaith athrawon wedi eu datganoli i Gymru.

Ar ddiwedd blwyddyn heriol 2020, a dechrau anodd i 2021, mae UCAC yn edrych ymlaen at barhau i roi’r gwasanaeth gorau i’w haelodau am flynyddoedd i ddod.

Diolch i OrielOdl am y dyluniad i ddathlu pen-blwydd UCAC yn 80 mlwydd oed.