Merched mewn Marcî! 

Cyfarfod cynta’r tymor o Ferched y Wawr Rhydypennau

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes
MyWRhydp1

Aelodau cangen Rhydypennau o Ferched y Wawr yn gwrando’n astud

Pnawn Llun, 13 Medi, daeth nifer dda o aelodau Cangen Merched y Wawr Rhydypennau at ei gilydd am baned a sgwrs mewn marcî tu ôl i dafarn Rhydypennau. Dyma’r tro cynta i’r aelodau gyfarfod ers mis Mawrth 2020 – ac felly roedd tipyn o waith dal i fyny a rhoi’r byd yn ei le! 

Cyfeiriodd y llywydd, Marian Beech Hughes, at nifer o ddathliadau gafwyd yn ystod y cyfnod yma, yn cynnwys dwy briodas aur, a hefyd at y tristwch o golli un o’r aelodau. 

Soniodd Lila Piette am y gwaith diweddaru sy’n cael ei wneud i’r cyfleusterau yn Neuadd Rhydypennau a llongyfarchwyd y pwyllgor ar eu gwaith diwyd. 

Yna, fe fuon ni ystyried rhaglen y misoedd nesaf, gan drafod sut i ymateb mewn ffordd bositif – a diogel – i heriau’r cyfnod sydd o’n blaenau wrth i’r gangen ailddechrau cyfarfod.

Diolch i staff tafarn Rhydypennau am baratoi lluniaeth i’r aelodau, ac am eu croeso a’u hynawsedd. 

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal bnawn Llun, 11 Hydref, yng Nghapel y Garn am 2 o’r gloch. Croeso cynnes i aelodau – hen a newydd!