Mae Celyn Jones 17, o Aberystwyth, wedi gwireddu breuddwyd wrth gwblhau Prentisiaeth Sylfaen yn gweithio gydag anifeiliaid ac adar.
Ei nod, yn y pen draw, o fod yn nyrs filfeddygol arbenigol.
Ac mae wedi llwyddo i gael swydd yn ddiweddar fel prentis nyrs filfeddygol gyda Milfeddygon Ystwyth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.
Mae ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gofal a Lles Anifeiliaid yn cael ei ddarparu’n ddwyieithog gan Rowan Flindall-Shayle, sy’n gweithio ym maes gofal am anifeiliaid a hyfforddi ceffylau gyda Haddon Training.
Ar ôl ennill 12 TGAU yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, roedd rhaid i Celyn benderfynu a oedd am fynd ymlaen i’r chweched dosbarth neu gadael a dechrau ar yrfa.
Pan gafodd gyfle i wneud Prentisiaeth Sylfaen mewn sŵ leol – sydd wedi cau erbyn hyn – roedd wrth ei bodd o gael cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu, yn ogystal â chael profiad ymarferol a datblygu sgiliau.
“Roeddwn i eisiau gweithio gydag anifeiliaid erioed ond heb feddwl am weithio mewn sŵ tan i fi ddechrau gwirfoddoli,” esbonia Celyn.
“Fy uchelgais yw bod yn filfeddyg neu’n nyrs filfeddygol arbenigol sy’n gweithio gydag anifeiliaid y mae arnyn nhw angen coesau prosthetig. Hoffwn i wneud Prentisiaeth Radd.
“Penderfynais i wneud prentisiaeth er mwyn dysgu sgiliau ymarferol a gwybodaeth oherwydd, yn y diwydiant hwn, mae profiad yn hollbwysig.”
Pwysigrwydd yr iaith Gymraeg
Gan fod Celyn mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, cafodd ei phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
“Roeddwn i’n ceisio cynnwys cymaint o Gymraeg ag y gallwn i yn fy sgyrsiau wythnosol gyda fy nhiwtor,” meddai.
“Oherwydd cyfnod cloi Covid-19, dydw i ddim wedi gallu gwneud llawer fel Llysgennad Prentisiaethau eto, ar wahân i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol ond rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo prentisiaethau dwyieithog pan alla i wneud hynny.
“Yn fy marn i, mae’n bwysig iawn hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn y Canolbarth a pherswadio rhagor o bobl ifanc i’w siarad.”
“Dysgu’n eithriadol o gyflym”
Rowan Flindall-Shayle a enwebodd Celyn i fod yn Llysgennad Prentisiaethau ac mae’n llawn canmoliaeth i Celyn: “Roedd Celyn yn ddysgwraig ifanc hyfryd i weithio gyda hi gan ei bod mor gydwybodol ac mor ymroddedig i’w gwaith ac i anifeiliaid.
“Roedd yn dysgu’n eithriadol o gyflym.
“Mae mor braf dod ar draws person ifanc sy’n gwybod yn iawn beth mae eisiau ei wneud. Fe welais i gynnydd mawr yn ei hyder yn ystod ei phrentisiaeth.”