Llyfr Cofio’r Cwm

Cofio’r Cwm / Cwmystwyth 

Joanna Morgan
gan Joanna Morgan

Cafodd llyfr Edgar Morgan, Llanfawr ei gyhoeddi’n ddiweddar fel rhan o Brosiect Cofio’r Cwm. Prosiect arloesol, gafodd ei lansio flwyddyn yn ôl, yw hwn sydd yn dathlu treftadaeth Cwmystwyth. Teitl y llyfr dwyieithog hwn yw ‘Cofio’r Cwm / Cwmystwyth / The Valley Remembered’ ac mae’n trafod hanes, treftadaeth a chymuned Cwmystwyth – pentref cefn gwlad oedd hefyd yn gartref i un o weithfeydd mwyn pwysicaf Cymru.

Yn ystod yr 20fed ganrif roedd tynged y Cwm yn debyg i gymunedau gwledig eraill ledled Cymru ond erbyn hyn mae Cwmystwyth yn ardal fywiog unwaith eto. Yn y llyfr hwn, a gyhoeddir gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Gymunedol Fferm Wynt Cefn Croes, ceir hanes pentref a chymuned a wrthododd farw.

Pris y llyfr yw £14.99 ac i’w brynu, cysylltwch â cofnodioncwmystwyth@gmail.com

 

1 sylw

Vicki Jones
Vicki Jones

Llyfr arbennig iawn!

Mae’r sylwadau wedi cau.