Llaeth ffres organig o’r fferm i’r cwtsh

Menter newydd i deulu amaethyddol lleol

Enfys Medi
gan Enfys Medi
Cwtsh-Llaeth

Cwsmeriaid cyntaf y Cwtsh Llaeth prynhawn yma – Ynyr a Betsan Siencyn.

Y Cwtsh Llaeth

Y Cwtsh Llaeth sydd wedi ei leoli yn yr Hen Ysgol Gymraeg, Aberystwyth.

Prynhawn yma, agorodd Cwtsh Llaeth Teulu Jenkins yn yr Hen Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma’r fenter gyntaf o’i fath yn Aberystwyth sy’n rhoi cyfle i chi brynu llaeth ffres organig o beiriant hunanwasanaeth.

Daw’r llaeth, wedi’i bastyreiddio, i’r peiriant yn ddyddiol o fferm laeth Cerrigcaranau, ger Tal-y-bont. Dyma deulu sydd a’i wreiddiau yn ddwfn yn y tir gyda’r chweched genhedlaeth yn ffermio yno bellach.

Mi fydd y Cwtsh Llaeth ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch brynu llaeth ffres yn ogystal ag ysgytlaeth blasus.

Pob hwyl i’r fenter ac edrychwn ymlaen i gael sgwrs pellach gyda’r teulu yn ystod yr wythnosau nesaf.