gan
Enfys Medi
Prynhawn yma, agorodd Cwtsh Llaeth Teulu Jenkins yn yr Hen Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Dyma’r fenter gyntaf o’i fath yn Aberystwyth sy’n rhoi cyfle i chi brynu llaeth ffres organig o beiriant hunanwasanaeth.
Daw’r llaeth, wedi’i bastyreiddio, i’r peiriant yn ddyddiol o fferm laeth Cerrigcaranau, ger Tal-y-bont. Dyma deulu sydd a’i wreiddiau yn ddwfn yn y tir gyda’r chweched genhedlaeth yn ffermio yno bellach.
Mi fydd y Cwtsh Llaeth ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch brynu llaeth ffres yn ogystal ag ysgytlaeth blasus.
Pob hwyl i’r fenter ac edrychwn ymlaen i gael sgwrs pellach gyda’r teulu yn ystod yr wythnosau nesaf.