Yr wythnos hon, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Cenn@d, papur wythnosol crefyddol newydd. Mae’n fenter ar y cyd rhwng Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru, sy’n golygu bod Y Goleuad a Seren Cymru wedi uno i greu un cyhoeddiad newydd, lliwgar a bywiog.
Bydd ar gael yn ddigidol, yn rhad ac am ddim i bawb, ar wefan cennad.cymru ac ar wefannau’r ddau enwad, a gellir trefnu i gael copi print os nad oes gennych fynediad i’r we. Bydd Cenn@d yn cynnwys newyddion o’r eglwysi, lle i drafod a gofyn cwestiynau perthnasol i Gristnogaeth yng Nghymru heddiw, yn ogystal â gwybodaeth am waith mudiadau dyngarol fel Cymorth Cristnogol.
Dywedodd y Parch Judith Morris, Penrhyn-coch, Ysgrifennydd y Bedyddwyr, ‘Hyfrydwch yw cael croesawu rhifyn cyntaf Cenn@d ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld y newyddiadur ar y we yn datblygu i fod yn gyfrwng i’n haddysgu, ein herio a’n calonogi wrth i ni roi’r Efengyl ar waith yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain.’
Un o’r tîm golygyddol yw’r Parch Watcyn James, Capel Bangor, gweinidog Gofalaeth y Garn, a dywedodd, ‘Edrychaf ymlaen am gael rhannu yn natblygiad Cenn@d i’r dyfodol, gan obeithio y bydd yn cyfrannu i drafodaethau ac yn hybu’r newyddion da yn ein plith.’
Gallwch ddarllen copi o’r rhifyn cyntaf yma: http://www.cennad.cymru