Mae Keith Henson, hwylusydd tai gwledig Cymdeithas Dai Barcud yn galw ar bawb i ymuno yn y drafodaeth ar sut i ddarparu tai i bobl ifanc yng nghefn gwlad Ceredigion a Chanolbarth Cymru. Mae’n wythnos Tai Gweledig ac yn dilyn Rali ddiweddar Cymdeithas yr Iaith yn Nhryweryn, dywed Keith: –
Mae’r sialensiau sy’n wynebu pobol ifanc yng nghefn gwlad Cymru yn destun pryder. Rhaid i bawb ymuno yn y drafodaeth.
Pwy yw Keith?
Mae Keith Henson yn byw yn Llannon ac yn hwylusydd tai gwledig. Mae’n rhan o rwydwaith o alluogwyr ledled Cymru, a ariannir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol.
Barcud, cymdeithas dai gydag eiddo yng Ngheredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin, a Sir Benfro sydd yn fy nghyflogi ac rwy’n gweithio o Lanbedr Pont Steffan. Mae gen i brofiad blaenorol fel rheolwr banc ac yn Bennaeth gwasanaethau masnachol gyda choleg addysg bellach leol. Rwy’n ymwneud yn weithredol â sawl cymdeithas a sefydliad lleol yn fy nghymuned fy hun a’r ardal rwy’n ei chwmpasu. Rwy’n gweld hyn fel rhan annatod o wead cefn gwlad Cymru.
Beth mae ‘Hwylusydd Tai Gwledig’ yn ei wneud?
Pwrpas y swydd yw gweithio gyda chymunedau gwledig i nodi’r angen lleol am gartrefi fforddiadwy ac yna’n gweithio gyda’r gymuned leol i ddod o hyd i gyfle addas i ddatblygu. Mae hefyd yn gweithio’n helaeth gyda chynghorwyr lleol i nodi meysydd potensial ar gyfer datblygiadau newydd. Mae ei waith yn sicrhau bod llais a barn pobl leol yn cael ystyriaeth ddyledus o ran anghenion tai a’r cyfle i aros yn eu hardal leol.
Beth yw’r argyfwng tai mewn ardaloedd gwledig yn 2021 yn ôl Keith?
Yn y 12 mis diwethaf, rwyf yn gweld mwy o faterion tai, gan gynnwys effaith pandemig COVID ar y farchnad dai. Mae’r cynnydd ym mhrisiau tai ffactor amlwg. Bu cynnydd sylweddol yn y bobl sy’n symud i ardaloedd gwledig o’r ardaloedd trefol a dinesig, yn bennaf o Loegr. Gwelodd ardaloedd arfordirol gynnydd mewn ail gartrefi neu mae eiddo Airbnb wedi cael effaith sylweddol ar y broblem.
Effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar wirfoddolwyr?
Mae’r argyfwng tai presennol oherwydd y pandemig wedi newid y math o bobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn. Mae wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau Cymraeg eu hiaith, gan fod mwy a mwy o bobl wedi symud i’r ardaloedd hyn nad ydynt yn ddwyieithog.
Mae gofynion ar wasanaethau cyhoeddus gan y rhai sydd yn symud i mewn, nad ydynt bob amser ar gael mewn ardaloedd gwledig. Pan mae llawer o ail gartrefi mewn pentrefi bach, mae llai o bobl yn gwasanaethu ar grwpiau cymunedol a gwasanaethau sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr.
Rhesymau dros yr argyfwng dai
Mae cyflog isel yng Ngheredigion yn effeithio ar allu pobl leol i gael morgeisi. Mae argaeledd tir, sydd, wrth gwrs, yn adnodd cyfyngedig, yn golygu bod llai a llai o siawns i adeiladu pob math o dai, o rent cymdeithasol i dai marchnad agored.
Beth ellir ei wneud i helpu gyda’r materion hyn?
Mae Keith yn credu y gallai datblygu cynlluniau tai arloesol i helpu.
Gallwn wneud hyn trwy amrywiol ffyrdd – trwy gymdeithasau tai, trwy ymddiriedolaethau tir a mentrau cydweithredol neu drwy ddatblygwyr hunan-adeiladu neu breifat. Gellir defnyddio gwahanol ddulliau cynllunio fel Safleoedd Eithrio Gwledig a datblygiadau One Planet. Gallai mwy o gefnogaeth awdurdodau lleol a phrosiectau newydd Llywodraeth Cymru i gefnogi tenantiaid a’r rheini sy’n dymuno prynu tai hefyd ddarparu atebion.
Beth ellir ei wneud yn lleol?
Mae datblygiad mewn ardaloedd gwledig yn cael ei reoli’n llym gan bolisi cynllunio, a all fod yn wahanol ym mhob ardal awdurdod lleol. Gall fod eithriadau i’r rheolau cynllunio, gan y cydnabyddir bod angen cadw pobl leol yn eu cymunedau. Efallai swm mwy sylweddol o hyblygrwydd i bob awdurdod lleol? Mae gan bob ardal o Gymru ei set ei hun o heriau oherwydd y dirwedd ddaearyddol ac ieithyddol.
Mae cyfrifoldeb arnom i gyd i feddwl am ddatrysiadau creadigol a dod ag atebion a chymryd rhan yn y sgwrs.
Am fwy o fanylion, neu i gysylltu â Keith – ewch i wefan Barcud.