Braf oedd cael cwrdd unwaith eto yn Rhodfa Padarn am 9 ar fore Sul. Heddiw gwelwyd ugain o blant yn dychwelyd i redeg a cherdded o gwmpas y cwrs ar ol seibiant o 16 mis ers i Covid-19 rhoi taw ar unrhyw weithgareddau ’nôl fis Mawrth y llynedd.
Diolch enfawr i’r Cyngor Sir am adael i ni ailddechrau unwaith eto. Hefyd, diolch i junior parkrun am weithio’n galed ar y canllawiau, asesu risg a moderneiddio’r system cadw amser a sganio i wneud yn siŵr ein bod o fewn rheolau cenedlaethol cadw pellter ac ati.
Diolch enfawr hefyd i’r rheolwr digwyddiadau sy’n rhoi ei amser i wneud yn siŵr bod junior parkrun Aberystwyth yn gallu ailddechrau. Hefyd, diolch yn fawr i’r gwirfoddolwyr am roi eu hamser ar fore Sul i wneud yn siŵr bod y sesiwn yn digwydd heb unrhyw ffwdan.
Croeso i unrhyw blentyn rhwng 4 a 10 oed (14 fel arfer, pan fydd parkrun yn dychwelyd) ymuno. Gallwch gofrestru ar wefan parkrun i gael eich ‘barcode’ unigol, a chofiwch ddod â hwnnw (wedi’i brintio) gyda chi ar fore Sul.