Mae ffermio yn ffordd o fyw i lawer ond mae’r fferm yn gallu bod yn le peryglus i weithio. Yn anffodus dengys yr ystadegau fod gormod o bobl yn colli eu bywydau neu cael eu niwedio’n ddifrifol yn flynyddol oherwydd damweiniau ar y fferm. Efallai i chi weld rhai o’r hysbysebion teledu trawiadol yn ddiweddar yn codi ymwybyddiaeth am y peryglon a gofyn i ffermwyr aros a meddwl am ddiogelwch cyn dechrau unrhyw waith.
Cynhaliwyd cystadleuaeth ddiwedd llynedd ar y cyd rhwng CFfI Cymru a Quad Bikes Wales a oedd yn gofyn i aelodau’r mudiad gynhyrchu fideo hyrwyddo diogelwch defnyddio Cwad. Penderfynodd Dewi Davies, aelod o CFfI Llanddeiniol gystadlu.
‘Roedd y cyfle i greu fideo oedd nid yn unig yn berthnasol i aelodau’r CFfI ond gweithwyr y diwydiant amaethyddol yn ehangach yn un unigryw – roedd y wobr hefyd yn ychwanegu at yr awydd i gystadlu!’
Mae mudiad y CFfI yn cydweithio a nifer o asiantaethau gwahanol ac mae hybu diogelwch ar y fferm yn un o’r meysydd maen’t yn awyddus i hyrwyddo. Os gellir datblygu arferion da wrth ymdrin a materion diogelwch o oedran ifanc mae’n golygu bydd clos y fferm yn le mwy diogel gobeithio i’r dyfodol.
‘Mae’r ystadegau yn parhau i ddangos fod nifer y damweiniau amaethyddol yn parhau yn uchel i’w gymharu â diwydiannau eraill. Mae’r fferm yn weithle prysur ac amrywiol felly gall cymryd munud i ailystyried a newid eich ffordd leihau’r risg wrth weithio.’
Dewi oedd cynhyrchydd y fideo ond mae’n diolch i’w frawd, Ifan am serennu ar y ffilm! Yr her oedd cynhyrchu hysbyseb Diogelwch ATV’ 1 munud o hyd yn canolbwyntio ar Ddiogelwch Beic Cwad at ddefnydd Amaethyddol.
‘Wrth gynhyrchu clip munud o hyd roedd angen pwyniau clir a chryno. Mae’r fideo yn dilyn y broses o baratoi i ddefnyddio’r ATV, megis gwirio cyflwr y peiriant a gwisgo a gosod helmed addas yn gywir, sut i deithio ar lethrau a thiroedd anwastad, a diffodd y cwad yn ddiogel.’
Enillodd Dewi y gystadleuaeth a gallwch wylio’r hysbyseb buddugol drwy glicio yma. Llongyfarchiadau iddo ar gyfleu negeseuon pwysig yn eglur ac effeithiol.
‘Roedd ennill yn dipyn o sioc! Ni gymrodd yn hir i Ifan ddweud wrthaf ei fod am hanner y defnydd! Diolch i’r CFfI a’r noddwyr am y cyfle.’
Erbyn hyn mae’r wobr wedi cyrraedd y fferm deuluol yn barod ar gyfer y cyfnod wyna. Mi fydd y cwad yn aros yn Penlan am flwyddyn a caiff tipyn o ddefnydd mae’n siwr. Mae’r cwad yn ffrind da i’r ffermwr wrth fynd o gwmpas ei waith beunyddiol ond rhaid cadw’n effro bob amser at faterion diogelwch.
Beth fyddai dy brif gyngor ti i unrhyw un sy’n defnyddio beic cwad?
‘Gwisgwch helmed maint addas ac sydd wedi ei osod yn gywir. Gall arbed eich bywyd pan fod yr eithaf yn digwydd.’
Llongyfarchiadau Dewi ar ennill ond yn bwysicach am gymryd yr amser i gystadlu a thynnu sylw ffermwyr o bob oedran at yr angen i aros a meddwl am ddiogelwch bob amser wrth ddefnyddio’r cwad. Pob hwyl gyda’r wyna yn Penlan a gwna’r mwyaf o’r cwad!