Hiroes i’r Cachgi-bwms!

Ar gynffon llwyddiant gerddi Cletwr wrth sicrhau statws Caru Gwenyn ynghynt yn yr haf, mae’r criw diwyd sy’n ymgyrchu dros fuddiannau’r peillwyr ar dir y caffi a siop gymunedol yn Nhre’r-ddôl wedi symud i’r lefel nesa fel petai gan ennill cystadleuaeth wedi’i threfnu ar draws gwledydd Prydain gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn ym mis Medi eleni ar gyfer gerddi cymunedol.

gan Martin Davis
Sioe yr Hydref o flaen Cletwr
Cacynen ar dafod y fuwch o flaen y gwesty pryfed

Ynghyd ag ennill taleb arddio am £80, adnoddau adnabod cacwn a phlac i’w osod yn y gerddi, mae enw gerddi Cletwr bellach yn hysbys ledled y DU ar gyfryngau cymdeithasol byd natur.

Yn ôl Siân Saunders, Tre Taliesin, un o griw brwd pleidwyr y peillwyr, “Ro’n i wir yn gorfod edrych ddwywaith pan ddaeth yr e-bost i roi gwybod i ni ein bod ni wedi ennill. Wrth ei agor, ro’n i jyst yn meddwl, ‘tybed pwy sy’ wedi ennill?’ ac wedyn yn sydyn yn sylweddoli fy mod i’n darllen am y Cletwr a ni oedd wedi curo!” Roedd y grŵp garddio ar ben ei ddigon gyda’r newyddion. “Mae’n braf gweld ymdrechion pawb yn dwyn ffrwyth fel hyn”, meddai Jane Nicholls, prif drefnydd y grŵp. Y gobaith yw y bydd pobl eraill yn cael eu hysbrydoli i blannu amrywiaeth o flodau yn eu gerddi i sicrhau porthiant i bryfed beillio yn ystod pob tymor.*

Fel y gwelwch chi o’r llun mae’r porthiant hydrefol i’r peillwyr yn drawiadol ac yn doreithiog a chydag ambell i breswylydd fel pe bai’n ystyried symud i fyw yn y gwesty pryfed yng ngardd gefn yr adeilad, mae pethau’n argoeli’n dda i beillwyr, planhigion a phobl y Cletwr fel ei gilydd.

*O ran diddordeb mae gan yr Ymddiriedolaeth dipyn o adnoddau yn y Gymraeg ac mae’n werth cael cip arnyn nhw fan hyn:

https://www.bumblebeeconservation.org/resources-in-welsh/?lang=cy