Helfa Drysor Llanilar

Mae Cewri Cymreig Ysgol Llanilar wedi creu Helfa Drysor y Pasg i’r teulu! 

gan Lowri Steffan
thumbnail_Image

Cewri Cymreig Ysgol Llanilar

Mae Criw Cewri Cymreig Ysgol Llanilar wedi bod yn brysur yn helpu i baratoi Helfa Drysor arbennig fel gweithgaredd teuluol dros wyliau’r Pasg. Cyfle i fynd am dro drwy’r pentref ac efallai dysgu ambell beth newydd am ein hardal arbennig?

Atebwch y cwestiynau isod a danfonwch eich atebion at: daniel@bro360.cymru erbyn nos Sul 11 Ebrill 2021.

Bydd un enillydd lwcus yn derbyn Wy Pasg yn wobr!

1) Beth yw oriau agor siop Llanilar ar ddydd Gwener arferol?

2) Sawl ffenest sydd i flaen adeilad yr ysgol?

3) Ym mha flwyddyn cafodd yr Hen Ysgol ei hadeiladu?

4) Pa liw yw drws yr eglwys?

5) Sawl blwyddyn gymerodd hi i adnewyddu Llyn y Ficerdy?

6) Beth yw enw’r afon sy’n llifo o dan y Bont Siglo?

7) Os wyt ti’n teithio ar hyd Llwybr Ystwyth, sawl milltir sydd ’na o Lanilar i Aberystwyth?

8) Beth yw enw’r brenin a gerddodd drwy bentref Llanilar?

9) Sawl tŷ sydd yn rhes flaen Cwm Aur?

10) Beth yw enw’r teulu sydd yn berchen ar ystad a phlasty Castle Hill?

POB LWC i bawb a PHASG HAPUS wrth griw y Cewri Cymreig, Ysgol Llanilar.