Helfa Drysor Aberystwyth 

Sawl un o’r cwestiynau yma allwch chi eu hateb? 

gan Alaw Griffiths
Helfa Drysor Aberystwyth
Traeth y Gogledd Aberystwyth

Traeth y Gogledd Aberystwyth

Dyma ddeg cwestiwn i blant cynradd (a’u rhieni!) y gallwch chi eu hateb wrth grwydro strydoedd Aberystwyth. Does dim rhaid i chi chwilio am yr atebion yn eu trefn.

Anfonwch eich atebion at danieljohnson@golwg.com erbyn nos Sul 11 Ebrill am siawns i ennill ŵy Pasg!

Pob lwc a mwynhewch y crwydro!

1. Pa flwyddyn sydd i’w gweld ar giatiau Rhodfa Plascrug?

2. Pwy oedd Hermann Ethé?

3. Pam fod pobol yn cicio’r bar?

4. “Machlud tawel, halen yn yr …..” ?

5. Pa liwiau sydd ar faner Romani?

6. O le daeth y ffigwr sydd ar dalcen hen siop Treehouse ar Stryd y Popty?

7. Cofgolofn pwy sydd o flaen yr Hen Goleg?

8. Pa liw yw sleid fawr barc chwarae’r castell?

9. Sawl mainc sydd ar y jeti pren ar ben draw traeth y de?

10. Ym mha flwyddyn oedd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar bont Trefechan?