Dyma ddeg cwestiwn i blant cynradd (a’u rhieni!) y gallwch chi eu hateb wrth grwydro strydoedd Aberystwyth. Does dim rhaid i chi chwilio am yr atebion yn eu trefn.
Anfonwch eich atebion at danieljohnson@golwg.com erbyn nos Sul 11 Ebrill am siawns i ennill ŵy Pasg!
Pob lwc a mwynhewch y crwydro!
1. Pa flwyddyn sydd i’w gweld ar giatiau Rhodfa Plascrug?
2. Pwy oedd Hermann Ethé?
3. Pam fod pobol yn cicio’r bar?
4. “Machlud tawel, halen yn yr …..” ?
5. Pa liwiau sydd ar faner Romani?
6. O le daeth y ffigwr sydd ar dalcen hen siop Treehouse ar Stryd y Popty?
7. Cofgolofn pwy sydd o flaen yr Hen Goleg?
8. Pa liw yw sleid fawr barc chwarae’r castell?
9. Sawl mainc sydd ar y jeti pren ar ben draw traeth y de?
10. Ym mha flwyddyn oedd protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar bont Trefechan?