Her Hanner Tymor 

Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch

gan Catryn Lawrence

Bu disgyblion, rhieni a chymunedau ysgol Penrhyn-coch ac ysgol Penllwyn yn cadw’n iach dros hanner tymor yn ein Her Hanner Tymor i gerdded, seiclo neu redeg pellter o 2,145 milltir ar y cyd, sef hyd yr adran hiraf o Wal Fawr Tsiena y medrir cerdded ar ei hyd. Apeliodd hyn yn fawr at ein disgyblion a oedd wedi astudio Rhyfeddodau’r byd y tymor hwn. Yn ogystal ag annog pob un i gadw’n actif yn ystod cyfnod clo arall, roedd yn gyfle hefyd i godi arian ar gyfer Elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac yn benodol ar gyfer ysbyty Bronglais, lle mae nifer o’n rhieni ni yn gweithio. Diolch i’n hathletwyr brwd, a’r elfen o gystadleuaeth ar Strava rhwng nifer o’n rhieni, cyrhaeddwyd y targed erbyn canol wythnos, er gwaetha’r tywydd garw! Ac wedi gosod targed newydd, o 3,000 milltir, llwyddwyd taro’r targed unwaith eto yn cyrraedd 3,416 milltir erbyn diwedd yr hanner tymor. Arwyddair ein hysgolion yw ‘Gyda’n gilydd gallwn lwyddo’ ac yn sicr ar yr achlysur yma llwyddo y gwnaethom! Diolch enfawr i Mr Bryn Shepherd am drefnu, i bob un am gymryd rhan, ac i bob un a gyfrannodd. Llwyddwyd i godi £895 at yr achos! Mae dal cyfle i gyfrannu trwy ddilyn y linc https://www.justgiving.com/fundraising/herhannertymor