Hanner cyntaf llawn cyffro ar Goedlan y Parc

Aberystwyth 2 – 2 Hwlffordd 04/05/2021

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Aberystwyth v Hwlffordd

Jamie Reed yn ergydio.

Aberystwyth v Hwlffordd

Owain Jones yn sgorio’r gyntaf i Aber.

Aberystwyth v Hwlffordd

Jamie Reed yn sgorio o’r smotyn.

Roedd Aber yn croesawu Hwlffordd i Goedlan y Parc am ei gêm olaf gartref y tymor yma ac fe gafwyd tipyn o gyffro. Fe aeth Aberystwyth ar y blaen dwywaith ond brwydrodd Hwlffordd ‘nôl ac fe orffennwyd y gêm yn gyfartal dwy gôl yr un.

Roedd dim angen aros llawer am y gôl gyntaf ac roedd dim syndod pwy oedd y sgoriwr. Mae Owain Jones ar dân i Aber ar hyn o bryd. Wedi 8 munud dyma fe’n casglu pas dreiddgar lawr asgell chwith Aber a brasgamu tuag at ymyl y cwrt cosbi cyn codi’r bêl yn gelfydd dros Gajda yn y gôl. Er iddo gael blaen ei fysedd i’r ergyd, glaniodd y bêl yng nghefn y rhwyd. Aber ar y blaen a phedwaredd gôl i Jones yn ei dair gêm gartref olaf.

Roedd gwynt cryf o ben y dref tu ôl i Hwlffordd yn yr hanner cyntaf ac roedd dim syndod felly eu bod yn cael mwy o feddiant. Roeddynt yn edrych yn arbennig o beryglus wrth ymosod lawr yr asgell dde a dyna oedd ffynhonnell y gôl nesaf. Yn dilyn pêl hir lawr asgell dde Hwlffordd, peniwyd y bêl lawr i Williams. Croesodd Williams yn isel ar draws ymyl y blwch cosbi a ergydiodd Wilson i gornel y rhwyd. Un yr un wedi 32 munud o chwarae.

Er y gwynt a meddiant Hwlffordd, roedd Aber yn dal i greu cyfleon. Ychydig dros funud wedi’r ail-ddechrau trodd Reed yn sydyn yn y cwrt ag ergydio heibio’r postyn. Ond doedd dim angen iddo aros yn hir am gyfle hyd yn oed yn well. Deng munud yn ddiweddarach baglwyd Franklin yn y cwrt cosbi a’r dyfarnwr yn rhoi cic o’r smotyn i Aber. Camodd Reed yn hyderus tua’r bêl ac anfon y golwr y ffordd anghywir. Aber ar y blaen unwaith eto, 2-1 ar ôl 43 munud.

Cyn i mi orffen nodi’r cyfan roedd y bêl yn y rhwyd unwaith eto! Y tro yma dyma Hwlffordd yn ymosod lawr yr asgell chwith a’r bêl yn cyrraedd Williams. Rhedodd ar draws ymyl y cwrt cyn ergydio i gornel dde’r rhwyd. Dim gobaith i Roberts yn y gôl i Aber.

Roedd y cyffro’n parhau yn ystod amser anafiadau gyda Reed ergydio heibio’r postyn o ymyl y cwrt chwech. Ond dwy gôl yr un oedd y sgôr ar yr hanner a’r disgwyliadau am fwy o goliau yn yr ail hanner yn uchel iawn.

Ond er syndod i bawb, ni chafwyd yr un gôl! Cafodd y ddau dîm sawl cyfle.

Hwlffordd gafodd y gorau o ddechrau’r ail hanner ac roeddynt yn beryglus yn ymosod lawr y ddwy asgell gan groesi’r bêl rhwng amddiffynwyr Aber a’r golwr. Yn dilyn symudiad tebyg bu rhaid i Bradford ruthro ‘nôl i atal ergyd gan flaenwr Hwlffordd yn y cwrt chwech wedi 65 munud.

Dechreuodd Aber gael mwy o afael ar y gêm ac fe wnaeth Gajda  arbediad gwych yn taflu ei hun ar draws y gôl i atal Williams rhag sgorio wedi 77 munud. Fe aeth Williams yn agos unwaith eto gydag ergyd o dafliad hir gan Thorn wedi 88 munud.

Gêm gyfartal a phwynt i Aber ond maent yn disgyn islaw Fflint yn y tabl wedi iddynt ennill o 6-0 yn erbyn Derwyddon Cefn. Felly tipyn o her i Aber wrth iddynt ymweld â Fflint dydd Sadwrn.

Dyma gêm gartref olaf Aberystwyth am y tymor ac mae’n rhaid talu teyrnged i’r chwaraewyr, y tîm hyfforddi ac yn arbennig y gwirfoddolwyr sydd wedi sicrhau bod y gemau wedi cael eu cynnal ac yn ddiogel. Diolch.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.