Mis Hanes Pobl Dduon 2021

Cerdd arbennig gan Eric Ngalle, ‘Still, She Calls’ 

I ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon 2021, comisiynodd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, y bardd Eric Ngalle i ysgrifennu cerdd, a’r artist/cynhyrchydd Keith Murrell i ddethol rhestr o artistiaid duon a anwyd yng Nghymru neu sy’n gweithio yma, sydd wedi cyfrannu at y celfyddydau.

Arddangosir enwau’r artistiaid hyn ar y grisiau o fewn Canolfan y Celfyddydau. Dewch draw i weld pa enwau a ddewiswyd gan Keith – mae ‘na hefyd nifer o risiau gwag yr hoffem eu llenwi gyda’ch awgrymiadau chi – e-bostiwch eich syniadau at fer11@aber.ac.uk gydol mis Hydref – Mis Hanes Pobl Dduon.

Diolch arbennig i Keith ac Eric am eu gwaith.

Mae cerdd Eric Ngalle, ‘Still, She Calls’ ar gael i wrando arni, a’i gwylio, yma ac ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac fe’i dangosir ar sgriniau yn y Ganolfan gydol y mis.

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.