Gŵyl Bro Bow Street a Llandre

Cerdded a Chlonc yn ein milltir sgwâr

gan Anwen Pierce

Dyma ambell lun o’r daith gerdded gynhaliwyd nos Iau, 2 Medi, i ddathlu Gŵyl Bro 360 yn ardal Bow Street a Llandre. Daeth criw o dros 30 ohonom at ein gilydd a chael taith a sgwrs hyfryd. Noson lwyddiannus dros ben, a’n milltir sgwâr ar ei gorau yn yr heulwen hwyr!