Gan ddathlu 20 mlynedd o sinema’r byd rhyfeddol yng Nghymru, mae Gŵyl Ffilm WOW Cymru a’r Byd yn Un, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn dychwelyd ar ffurf eithaf gwahanol. Yn lle prynu tocynnau i fynd i mewn i sinema dywyll, bydd mynychwyr yr ŵyl yn gwneud eu hunain yn gyffyrddus ar eu soffas i wylio’r ffilmiau’n ffrydio ar-lein, yn rhad ac am ddim.
Dechreuodd gŵyl Ffilm WOW ddydd Iau, 11 Mawrth, ac mae’n para tan nos Sul, 21 Mawrth. Mae nifer o themâu’n rhedeg drwy’r ŵyl, gan gynnwys pwyslais ar faterion amgylcheddol gyda’r ‘Sgrin Werdd’, a dros hanner y rhaglen yn dod gan Menywod yn Sinema’r Byd.
Bydd nifer o ddigwyddiadau arbennig hefyd a sgyrsiau gyda gwneuthurwyr ffilmiau – gan gynnwys rhai o Laos, Iran, Paraguay a Saudia Arabia. Roedd yr AS Ben Lake yn rhan o’r digwyddiad agoriadol, sef sgwrs am y mudiad bwyd lleol, cyfiawnder bwyd a diogelwch bwyd.
Mae WOW hefyd yn cydweithio â nifer o wyliau ffilmiau Cymreig eraill, gan gynnwys Gŵyl Arswyd Abertoir – a gynhaliodd ei gŵyl ar-lein y llynedd – Gŵyl Iris a Gŵyl Animeiddiad Kotatsu.
Bydd yr ŵyl yn cloi trwy ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Coedwigoedd y Cenhedloedd Unedig. Gyda’r argyfwng hinsawdd, mae pawb yn siarad am blannu coed. Ond ydyn ni’n mynd ati yn y ffordd iawn?
Meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm WOW, David Gillam:
“Mae wedi bod yn gyffrous iawn i roi ein gŵyl ar-lein gyntaf at ei gilydd. Nawr gall pobl yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig ymuno â’r parti a darganfod yr hyn y mae cynulleidfaoedd Cymru wedi’i fwynhau ers ugain mlynedd. Hoffem ddiolch i’n holl gyllidwyr a’n noddwyr sydd wedi ei gwneud hi’n bosibl i ni fywiogi’r dyddiau tywyll hyn trwy ddarparu’r ŵyl ar-lein, yn hollol rad ac am ddim. Heb gefnogaeth Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ni fyddai’r ŵyl rad ac am ddim hon wedi bod yn bosibl. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i bawb yn ein ‘cartref ysbrydol’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Fydden ni ddim wedi gallu cynnal gŵyl eleni hebddynt.”
Gallwch weld rhaglen lawn yr ŵyl ac archebu tocynnau – sy’n rhad ac am ddim – ar wefan yr ŵyl.