Yn cynnal eu digwyddiad byw cyntaf ers Rhagfyr 2019, cyflwynodd Menter Aberystwyth sioe ar gyfer “Gwobrau Cyntaf Aber” eleni.
Mae Gwobrau Cyntaf Aber yn gyfle i gydnabod y gwaith caled a’r cyfraniadau eithriadol a arddangosir gan unigolion, sefydliadau a busnesau yn ardal Aberystwyth. Yn 2019, daeth 130 o bobl ynghyd i’r digwyddiad syfrdanol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ac roedd y noson yn gymaint o lwyddiant fel bod Menter Aberystwyth yn awyddus i ddod ag ef yn ôl eto.
Eleni, roedd 9 categori ac un enillydd cyffredinol. Gyda chyfyngiadau Covid-19, nifer cyfyngedig oedd yn gallu mynychu’r seremoni, ond cafwyd noson drwsiadus dros ben gyda chymorth Lowri Steffan o Steilio dots Styling a No21 Flowers.
Dyma’r enillwyr o’r noson:
Y Wobr Werdd noddir gan Driftwood Designs
- Llaeth Teulu Jenkins Family Milk
Gwobr Adwerthu noddir gan Steilio dots Styling
- Maeth y Meysydd
Gwobr Bwyd a Diod noddir gan Cigyddion Rob Rattray
- Paprika
Gwobr Annog Cymuned noddir gan St Michael’s Church
- Caru Aber
Gwobr Dathlu Busnes Newydd noddir gan No21 Flowers
- Pwdin
Gwobr am Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg noddir gan Sweet Vice with Poly
- Llaeth Teulu Jenkins Family Milk
Gwobr yr Arwr noddir gan Radio Aber
- Anwen Evans
Gwobr Cyfryngau Cymdeithasol noddir gan Gwe Cambrian Web Cyf
- Alexanders
Gwobr Gwytnwch Busnes noddir gan Electrical Estimates
- Y Ffarmers
Y Brif Wobr noddir gan Yr EGO ac Y Cambrian News
- Medina
Dyma oedd gan ein beirniaid i’w ddweud am ein Enillydd Cyffredinol:
“Cafodd Medina ei henwebu mewn dau gategori ac roedd yn gryf yn y ddau. Roeddem yn teimlo, o ran yr hyn y mae Medina yn ei gyflwyno i’r dref a’r arloesedd a’r arweinyddiaeth y maent wedi’i ddangos dros y deunaw mis diwethaf, y dylid eu cydnabod a’u bod yn cwmpasu mwy na’r categorïau yn unig. Llongyfarchiadau i Medina, busnes sydd wedi cymryd camau breision drwy’r pandemig, ac sy’n gaffaeliad i Aberystwyth a Cheredigion.”
Hoffai Menter Aberystwyth diolch i’w brif noddwyr, Cyngor Tref Aberystwyth a Phrifysgol Aberystwyth; ac hefyd i’r Canolfan y Celfyddydau am leoliad ffantastig!