Roedd yn bleser pur tywys yr awdur Michael Grimes o Lundain o gwmpas meysydd pêl-droed ardal Aberystwyth yn ddiweddar, a hynny yng nghwmni Aled Bont Jones. Mae cyfrol Michael, From Saints to Druids, yn cofnodi ei ymweliadau â 12 o feysydd Uwch Gynghrair Cymru yn 2019 wedi cael derbyniad caredig, a newydd fynd i ail argraffiad.
Mae’n gyfrol sy’n gymaint mwy nag un am bêl-droed yn unig – yn ogystal mae’n cynnwys dipyn o hanes lleol ac ymdriniaeth ddeallus ar enwau lleoedd.
Yn ystod ei ail ymweliad â Cheredigion, cafodd Michael gyfle i weld meysydd Cae Baker (Penrhyn-coch), Cae Piod (Bow Street) a Chae Uppingham (Y Borth) a nifer o feysydd eraill yn ardal Aberystwyth yn cynnwys Blaendolau a Chae’r Ficerdy (Prifysgol Aberystwyth), Cae Llety Gwyn (Padarn United), Coedlan y Parc a Min-y-ddôl (Penparcau).
Gobeithiwn y gwelwn gyfrol arall newydd o ddwylo Michael yn dilyn ei ymweliad diweddaraf.
Gellir archebu From Saints to Druids am £17.99 (yn cynnwys cludiant) drwy gysylltu â Michael ar y cyfeiriad canlynol: michaelbgrimes101@gmail.com neu yn uniongyrchol o – https://www.dognduck.net/
Richard Huws