Gwanwyn yn y Pentre

Gweithgareddau’r gwanwyn yn dod â thrigolion Llanddeiniol at ei gilydd

gan GWYN W EVANS

Llanddeiniol

Mi oedd fy ewyrth yn dweud wrtha i y dydd o’r blaen, “Pan ddaeth yr Ail Ryfel Byd, ddaru sawl peth gael ei ddatblygu yn gyflym iawn, er enghraifft, radar. Mi fyddai wedi digwydd beth bynnag, ond roedd tua deg mlynedd yn gynt achos roedd ei angen.”

Mae yna lawer o bethau sydd yn digwydd o achos Covid 19 yn yr un ffordd, pethau fel Zoom, oedd o gwmpas ers sawl blwyddyn. Ond oeddech chi wedi clywed amdano cyn hyn? Doeddwn i ddim, ac erbyn hyn mae’n rhywbeth fydda i’n ei ddefnyddio’n ddyddiol, bron.

Peth arall sydd wedi digwydd ydi fod y capeli a’r eglwysi wedi bod ar gau. Mae Zoom wedi cymryd drosodd mewn sawl ardal yn lle’r oedfa draddodiadol, ac un o’r cwestiynau ddaw ar ein traws ydi, “Pryd fyddan nhw’n ailagor … os o gwbwl?”

Gyda hyn fel cefndir, daeth tri ohonom at ein gilydd i weld beth fedren ni wneud yn yr amser od, anodd, annisgwyl, a rhyfedd yma. Beth fedren ni ei gynnig i’r aelodau?

Y peth cyntaf ddaeth i’r meddwl oedd fod y sefyllfa yr un fath i’r capel a’r eglwys. Felly, fyddai hyn yn gyfle i ddod at ein gilydd i wneud rhywbeth ymarferol a gweledol tu allan i furiau’r adeiladau oedd ar gau – yn y pentref?

Ac yn wyrthiol daeth cynllun. Beth am anelu tuag at ddydd Gŵyl Ddewi oedd yn gyflym agosáu. Felly dyna fu.

Yn enw Eglwys Sant Deiniol a Chapel Elim, bu dosbarthu bron i 60 tusw o flodau cennin Pedr a charden yn dymuno diwrnod hapus “gyda gwên y gwanwyn”, i bob tŷ yn y plwyf.  A dyna i chi ymateb ardderchog a gawsom.  Sawl un yn dweud ein bod wedi “gwneud ei diwrnod”, “wedi codi gwên”, “ddim wedi gweld neb ers amser”, ac yn y blaen. Mi gymerodd trip arferol o hanner awr, ddwy a hanner, gymaint oedd y clebran!

Y cyfle nesaf a ddaeth yn amlwg i’n rhan oedd y Pasg wrth gwrs, a daeth sawl syniad i’r fei. Gwasanaeth y Groglith a Sul y Pasg yn yr eglwys, a gwahodd pobl y capel, gan nad oedd ar agor. A do, daeth sawl un ar y Sul.

Ar yr un pryd codwyd croes tu allan i’r Hen Ysgol ar ochor y ffordd, gyda chardiau ar y wal yn esbonio rhai agweddau o’r Pasg mewn ffordd syml a darllenadwy iawn. Gwelais gerddwyr a cheir yn aros am eiliad i ddarllen.

Ar yr un pryd, tra oedd gwasanaeth Sul y Pasg ymlaen, mi ddechreuodd helfa wyau ar hyd a lled y pentref, gyda theuluoedd yn cymryd rhan ac yn medru osgoi ei gilydd yn hawdd ac yn saff. Daeth rhai i ymuno ar ôl dod allan o’r eglwys: prynhawn prysur – cymun a siocled, prynahwn da!

A dyna gychwyn ardderchog. Mi oedd y Deon Julian Smith wedi gofyn y cwestiwn, “Beth ydi’r eglwys – ai’r adeilad neu’r bobl?” Mae hwn yn gwestiwn anodd i rai, un dwfn ac amserol gan na fydd sawl adeilad ar draws Cymru yn ailagor pan godith y cyfyngiadau yma. Gan ddefnyddio rhesymeg John Wesley, os nad ydi’r bobl am ddod, caewch y drws – beth ydi’r pwynt?

Gwyn W Evans