Gwalia Philistia
Mae’n rhaid ein bod ni, y genedl
sydd ohoni, mor gyfoethog
fel y gallwn fforddio peidio â thalu
am y pethau hyn;
gallu fforddio gwneud y tro
heb wybodaeth ddethol catalogau;
heb drylwyredd cwrtais ystafelloedd darllen;
heb wybodaeth gyfan y porthorion! Na’u croeso.
Bu yma unwaith, ar y bryn,
ganu ein caneuon ac adrodd
straeon ein hanesion ni wrth bawb;
dweud am hynt y llwyth â gonestrwydd balchder
a gwingo ger drygioni a holl lwfrdra
ei ffaeleddau hen.
Bu amser na ddilornai’r byd ein ysgolheictod.
Ym mhanig niwl rhyw fiwrocratiaith fawr,
daeth amaethwyr balch i chwilio enwau caeau
ac i’w mesur nhw i gyd
at bwrpas llenwi ffurflen grant,
gan adael mwd diolchgar ar hyd
carped coch yr adeilad hwn.
Mae yma ar y bryn, o hyd – gobeithio – ddeall
nad yw digido’n digwydd mewn rhyw wagle.
Mae’n digwydd, hefyd, wrth arllwys ac mewn
yfed paned ym Mhendinas, a thros sgwrs;
mae’n digwydd pan fydd dagrau rhai
sy’n canfod tylwyth mewn hen, hen ddogfennaeth,
yn cydio’n dynn yn llaw y cymorth
hawdd ei gael mewn Ystafell Ddarllen.
Nid peth twt yw metadata.
Ac, weithiau, mae archif yn brifo.
Mae bocsys ar y silffoedd
â’u cyfrinachau mewn rhubanau’n aros
am y dydd y gwelir drafftiau a llythyrau
ein llenorion ac artistiaid, cofnodion clercod,
camgymeriadau cyfarwyddwyr ffilm
a holl orchestion gwleidyddion ddoe.
Dafydd John Pritchard