‘Golau yn y tywyllwch’ – Diwrnod Cofio’r Holocost

Anogaeth i olau cannwyll yn ‘olau yn y tywyllwch’ ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, 27 Ionawr 2021

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes

Bandstand Aberystwyth

Ar 27 Ionawr bob blwyddyn cynhelir nifer o ddigwyddiadau ledled y byd i gofio’r rhai sydd wedi dioddef oherwydd hil-laddiad. Mae hyn yn cynnwys y chwe miliwn o Iddewon a gollodd eu bywydau o ganlyniad i’r Holocost, yn ogystal â’r rhai sydd wedi dioddef yn sgil gweithredoedd tebyg yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Thema Diwrnod Cofio’r Holocost 2021 yw ‘Bod yn olau yn y tywyllwch’. Mae’n annog pawb i fyfyrio ar y pethau erchyll y gall pobl eu gwneud, ond hefyd sut mae unigolion a chymunedau wedi codi eu llais yn erbyn yr erchyllterau yma drwy fod yn ‘olau yn y tywyllwch’.

Cyngor Ceredigion yn goleuo adeiladau’n borffor

Eleni, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn goleuo dau adeilad yn Aberystwyth i ddangos undod, parch ac anrhydedd tuag at bawb sydd wedi dioddef yn sgil hil-laddiad. Rhwng dydd Gwener, 22 Ionawr, a dydd Iau, 28 Ionawr, bydd y bandstand ar lan y môr yn Aberystwyth a llyfrgell y dref (Canolfan Alun R Edwards) yn cael eu goleuo’n borffor.

Canolfan Alun R Edwards

Dywedodd y Cynghorydd Ellen Ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn gyfle i bob un ohonom fyfyrio ar yr erchyllterau a gyflawnwyd yn y gorffennol a’n harwain at ffordd fwy dyngarol o drin ein cyd-ddinasyddion yn y byd, beth bynnag fo’u lliw neu eu cred, yn y dyfodol.”

 

 

Effaith yr Holocost ar deulu gwraig o’r Borth

Un o’r rhai a gafodd ei lofruddio gan y Natsïaid yn Auschwitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Lieb Nussbaum, tad-cu Jackie Bat-Isha o’r Borth. Y llynedd, lluniodd Jackie arddangosfa arbennig yn y Morlan yn adrodd stori ei theulu, a orfodwyd i ffoi o Wlad Pwyl. Er i’w thad-cu gael ei ladd yn y modd mwyaf erchyll, cafodd aelodau eraill o’r teulu, yn cynnwys ei mam-gu, loches yn Ffrainc gan wraig a beryglodd ei bywyd ei hun i’w hamddiffyn a’u cuddio rhag yr awdurdodau am ddwy flynedd. Mae’r ffilm a luniodd Jackie o’r arddangosfa i’w gweld ar YouTube.

Dywedodd Jackie, ‘Y dyddiau diwethaf yma rydw i wedi bod yn meddwl am y wraig gyffredin, ddewr yma a wnaeth rywbeth cwbl arwrol drwy roi lloches i’m mam-gu. Drwy wneud y pethau bychain – cynnig gwydraid o ddŵr neu ddarn o fara, neu wên hyd yn oed – gallwn ninnau fod yn oleuni yn nhywyllwch ein dyddiau ni.’

Cynnau cannwyll

Er na ellir trefnu digwyddiadau cyhoeddus ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae Jackie’n annog pawb i gofio’r Holocost eleni drwy gynnau cannwyll a’i gosod yn y ffenest am 8 o’r gloch nos Fercher, 27 Ionawr – y diwrnod y cafodd carcharorion eu rhyddhau o wersyll Auschwitz yn 1945.

Bydd recordiad o Seremoni Genedlaethol Cymru eleni i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost ar gael ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd o 11 o’r gloch ymlaen.

Am fanylion pellach, ewch i wefan Cyngor Caerdydd: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25681.html.

Mae manylion digwyddiadau eraill ar gael yn Saesneg ar wefan yr Holocaust Memorial Day Trust