Côr Gobaith yn canu i gofio

Croeso i aelodau newydd ac ail-ddechrau rhaglen o ganu

Bydd Côr Gobaith yn canu er cof am holl ddioddefwyr rhyfel am 1 o’r gloch, dydd Sul, 14eg o Dachwedd 2021, ger y Goeden Heddwch ar Stryd Portland, Aberystwyth.

Mae’n ddigwyddiad yn arbennig gan y bydd y côr yn canu hefyd er anrhydedd i’r diweddar Dorothy Bell a weithiodd yn ddiflino dros heddwch a chyfiawnder ar hyd ei hoes.

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, côr stryd yw Côr Gobaith sy’n canu dros heddwch, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd.

Maent yn ymarfer rhwng 6-8 yr hwyr bob nos Fercher yn Neuadd Eglwys Llanbadarn.

Ar fore Sadwrn y olaf mis, fel arfer y tu allan i Siop y Pethe ar Sgwâr Owain Glyndŵr, maent yn canu ar y stryd rhwng 11 a 12 y bore.

Maent am nodi fod bob amser croeso i aelodau newydd. Ni chynhelir clyweliadau ac nid oes angen darllen cerddoriaeth.

Cefndir y côr

Cafodd Susie Ennals ei hysbrydoli i sefydlu Côr Gobaith i ganu dros faterion megis heddwch, cyfiawnder a’r amgylchedd ar ôl Fforwm Cymdeithasol Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 2006. Er bod Susie’n gerddorol gyda phrofiad o ganu mewn corau – gan gynnwys Côr Cochion o Gaerdydd – dyma oedd y tro cyntaf iddi fentro i arwain côr.

Roedd yn arweinydd penigamp ac fe aeth y côr o nerth i nerth o dan ei harweiniad. Nest Howells sydd bellach wrth y llyw, ac wedi cynyddu’r caneuon Cymraeg yn ein casgliad. Maent yn canu yn Gymraeg a Saesneg – a sawl iaith arall hefyd! Tra bod Susie yn dal yn aelod o Gôr Gobaith, mae hi bellach yn arwain Côr Heddwch Pales o Landrindod, Powys.

Nes daeth Cofid-19, roedd Côr Gobaith yn perfformio yng nghanol Aberystwyth yn ddieithriad ar Sadwrn olaf y mis, gan ganu dros y pethau sy’n bwysig i ni a chasglu arian i elusennau lleol a rhyngwladol. Byddem hefyd yn canu mewn nifer o ddigwyddiadau yn y cylch.

Mae’r côr wedi teithio hefyd a, dros y blynyddoedd, maent wedi canu mewn amryw rali a phrotest ar draws y DU, gan gynnwys Faslane, Aldermaston, Caerdydd, Manceinion a Llundain, yn ogystal â gwyliau o bob math, megis El Sueño ExisteWomen In Tune Festival, Raise Your Banners, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a’r Ŵyl Corau Stryd (a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 2013).

Pob hwyl i’r côr a beth am i eraill ymuno a nhw?