Mae Clwb Beicio Ystwyth yn nodi diolch enfawr i Ken Williams a Glyn Evans am flynyddoedd o weinyddu a dyfarnu amseroedd rasys beics yng Ngogledd Ceredigion.
Roedd heno (nos Fercher 14-7-2021) yn noson drist gyda’r ddau yn amseru’r ras am y tro olaf
Mae Ken Williams wedi bod yn Comiswr Cenedlaethol (National Commissaire) ar nifer o rasys ers 40 mlynedd. Mae ras Taith Cymoedd y Mwynau wedi ei enwi ar ôl merch Ken, Angela Davies, oedd yn beic wraig abl, ond a fu farw yn llawer rhy ifanc.
Ond mae Glyn Evans hefyd yn un o 5 Comiswr Cenedlaethol hefyd yn ymddeol, a hynny ar blynyddoedd o gydweithio gyda Ken yng nghlwb beicio Ystwyth fel ysgrifennydd tra roedd Ken yn drefnydd rasys. Mae Glyn hefyd wedi bod yn swyddog y wasg Beicio Cymru, a’r ddau wrth gwrs wedi bod yn feicwyr profiadol iawn.
Diolch i gyfraniad y ddau yma, mae beicio wedi bod yn rhan o raglen flynyddol Aberystwyth a heb eu hymdrechion, ni fyddai clwb mor ffyniannus a Chlwb Beicio Ystwyth.
Mae nifer o luniau o’r Clwb ar gael ar wefan Casgliad y Werin a diolch iddynt am eu caniatâd i ddefnyddio’r lluniau yma.