GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Ystafell’

GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Ystafell’

William Howells
gan William Howells

Myfyrdod ar gyfer Sul y Blodau 2021

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y Myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Mae’n Sul y Blodau unwaith eto, penllanw’r Grawys a chychwyn yr Wythnos Fawr. Ar y Sul hwn flwyddyn yn ôl yr oeddem ond yn cychwyn cynefino â rheolau’r cloi lawr cyntaf yn sgil lledaeniad Coronafirws. Prin fyddai neb wedi breuddwydio bryd hynny ganlyniadau niweidiol yr haint fyddai’n crymanu’n rheibus drwy’n cymunedau ac yn difa bywydau cynifer. Bu’n flwyddyn o gyfyngu ar weithgaredd ac o ymgadw rhag ymgynnull mewn niferoedd, o ymbellhau ac o warchod. Blwyddyn pan gofiwn am ymroddiad y gwasanaethau gofal mewn ysbytai a chartrefi gofal ac am ymdrechion gwirfoddol a chonsyrniol o fewn ein cymunedau.

Yn draddodiadol mae’r Sul hwn yn gyfle i roi blodyn ar fedd ac i gofio am anwyliaid. Eleni, ma’na gymaint mwy o feddau, a chymaint mwy o deuluoedd yn hiraethu a chymaint o ystafelloedd gwag ar aelwydydd o ganlyniad.

Stafell Gynddylan ys tywyll heno,
Heb dân, heb wely;
Wylaf wers; tawaf wedy.

Geiriau agoriadol cân Heledd o’r nawfed ganrif sy’n disgrifio’r ystafell honno yn llys Pengwern ym Mhowys yn dilyn marwolaeth ei brawd – y brenin Cynddylan – ar faes y gad. Ystafell a ddaeth i gynrychioli dinistr, anfadwaith a cholled.

Lleoedd diddorol yw stafelloedd, a bydd camu iddynt yn creu ynom ddyhead ar adegau i’r muriau hynny lefaru gan ddatgelu’r profiadau a’r cyfrinachau a rannwyd o’u mewn. Ac er mai rhyw ddyhead gwag i bob pwrpas ydyw peth felly, gan nad oes i furiau na chlustiau na llais, eto i gyd mi fyddai’n dda gennym wybod shwd rai oeddynt – y rhai a fu yno gynt yn creu cwmnïaeth a chymdeithas o’u mewn, eu sgwrs a’u hymddiddan, naws y cyffwrdd, y cofleidio a’r croesawu, nes codi ynom ninnau hefyd yr hiraeth hwnnw y soniodd Waldo Williams amdano: ‘yr hiraeth am eich nabod chi bob un’.

Ymdeimlad felly a ddaw i ran nifer fawr o bobl wrth iddynt ddringo’r grisiau cerrig hynny, nid nepell o borth Damascus yn ninas Jerwsalem, sydd yn eich arwain o’r stryd islaw i oruwchystafell, y man a’r lle y rhannwyd swper ynddo unwaith.

Oriau hunllefus oedd y rhai a ddilynodd cyfeillach yr ystafell honno; dilewyd gobeithion a chwalwyd holl gastelli bywyd y disgyblion.

Daeth y groes a’i waradwydd yn ddychryn ac yn siom, ac er i’r hunllef droi’n orfoledd gwyllt mewn tridiau, a bedd gwag yn faen gobaith, eto fe dreiddiodd y digwydd a’r dweud, y geiriau a’r arwyddion yn ddwfn i galonnau ac i eneidiau Ei ddilynwyr syn.

Ac i Ioan yr ydym yn ddyledus am osod ar gof a chadw yn ei Efengyl brofiadau’r ystafell honno ar nos Iau Cablyd wrth i Iesu a’i ddisgyblion gasglu ynghyd i ddathlu Gŵyl y Bara Croyw.

Ioan sy’n rhyw gilagor drws yr ystafell i ni fel petai, er mwyn i ni syllu mewn cyfaredd ar y digwydd a chlustfeinio ar y dweud oddi mewn.

Yno o gylch y bwrdd ma’na un disgybl ar ddeg; ma’na un ohonynt wedi codi ac wedi mynd allan i’r nos i gynllwynio a bradychu, ond mae’r gweddill yno, ac y mae Iesu yno, ac o’i gylch Ef y try holl ddrama a digwydd yr ystafell.

Ma’r swper bellach wedi dod i ben, ac arwyddocâd arbennig wedi ei leisio mewn perthynas â rhai o’r elfennau a rannwyd yn y wledd gofiadwy honno: y bara a’r gwin – y cyfryngau cyffredin, grymus hynny a fyddai yn ysgogi cof ei ddilynwyr Ef ym mhob cenhedlaeth, ‘y cof am Galfaria ac aberth y groes’.

Ond yna, mae ystafell y dathlu a’r cofio yn dod yn ystafell y plygu a’r taeru, wrth i Iesu eiriol dros ei ddisgyblion gerbron ei Dad.

Yn yr ail bennod ar bymtheg o’i Efengyl y mae Ioan yn crynhoi cynnwys y weddi. Mae’n weddi sy’n datgelu perthynas Tad a Mab. Mae’n weddi sy’n deisyf ac yn eiriol – fe dynnir iddi ddisgyblion dyddiau’i gnawd, ynghyd â’r rhai ymhob cenhedlaeth fydd yn arddel yr enw hwnnw sydd uwchlaw pob enw arall; ac ma’na alw ynddi i neilltuo a gwarchod a gwneud yn un.

Yn y penodau sy’n blaenori’r bennod hon mae Iesu wedi bod yn calonogi ei ddilynwyr, yn eu paratoi ar gyfer yr hyn a oedd i ddigwydd; mae wedi bod yn sôn wrthynt am addewid ei Ysbryd – ‘Ysbryd y Gwirionedd a fyddai yn eu harwain i bob gwirionedd.’ Ond yn awr mae Iesu’n troi ei olygon at ei Dad nefol ac yn cyflwyno ger ei fron ef y criw brith, ofnus yma oedd wedi bod gydag ef yn ystod blynyddoedd ei weinidogaeth – y rhai a fu’n rhannu gydag ef brofiadau cyffrous ac ysgytwol y weinidogaeth honno, y rhai y bu ef yn eu gwarchod a’u cyfarwyddo.

Yn oedfa’r oruwchystafell mae Iesu yn eiriol dros y rhai sy’n dal perthynas ag ef ac yn tystio i’w enw.

Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymryd allan o’r byd, ond ar i ti eu cadw’n ddiogel rhag yr un drwg. Nid ydynt yn perthyn i’r byd, fel nad wyf finnau’n perthyn i’r byd. Cysegra hwy yn y gwirionedd. Dy air di yw’r gwirionedd. (Ioan 17:15–17)

Sylwch, nid yw Iesu’n gofyn i Dduw eu lapio nhw mewn gwlân cotwm na’u gosod o afael pawb a phopeth. Ro’dd yn gwybod yn iawn y byddent yn siŵr o brofi anawsterau a gofidiau ac ofnau; nid eu cymryd hwy allan o’r byd yw’r bwriad – y byd oedd maes eu gweithgarwch a’u hymwneud, maes eu cenhadaeth a’u tystiolaeth i’r Enw ac i’r gwirionedd.

Yn hytrach, mae’n gofyn i Dduw eu cadw rhag yr un drwg – ma’na adlais o eiriau’r salmydd fan hyn: ‘Ni ad efe i’th droed lithro ac ni huna dy Geidwad. Ni huna ac ni chwsg Ceidwad Israel.’

Ac y mae’r Apostol Paul yn ei lythyr at yr eglwys yn Effesus yn cyflwyno’r un meddylfryd: ‘Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn i chwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol … ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn.’

A dyna yw craidd eiriolaeth Iesu Grist dros ei ddisgyblion yn y weddi hon yn yr ystafell honno: ar iddynt fod yn feddiannol o’r arfogaeth unigryw hwnnw er mwyn iddynt fedru sefyll a thystio – i fod yn eglwys Crist yn y byd.

Nid lle yw’r eglwys, ond pobl. Nid corlan, ond praidd. Nid adeilad cysegredig ond cynulliad crediniol, a rhaid i’w eglwys gofio ym mhob oes taw ei adeiladwaith Ef ydyw hi.

Yn y weddi honno mewn goruwchystafell ar drothwy cyflafan Calfaria, a’r  groes a’r dioddefaint wrth yr adwy, fe gwyd eto’r anogaeth i’w ddilynwyr rannu’r undod hwnnw sy’n cyfannu a thynnu ynghyd, yn clymu ac eto’n rhyddhau. Mae’n gweddïo ar iddynt fod yn ‘UN’ – i fyw mewn undod â’i gilydd.

Ar hyd y canrifoedd y mae’r eglwys wedi cael ei rhannu gan enwau dynion. Llwyddodd enwau Paul, Apolos a Ceffas i rannu’r eglwys yng Nghorinth, ac mae enwau Acweinas, Luther, Calfin, Newman, Wesle wedi rhannu’r eglwys ers hynny. Os dyrchefir enwau dynion nes i bobl eu gweld mewn goleuni amgenach na gweision y Crist Croeshoeliedig, yna mi fydd yr eglwys yn ymrannu; ond os dyrchefir enw’r Crist uwchlaw pob enw arall, fe ddaw’r eglwys ynghyd.

Yn enw’r Crist fe’n hunir – yn enw Crist y saif ei eglwys gerbron y byd yn rym i newid bywydau ac i achub eneidiau. A daw’r undod hwnnw nid drwy orchest neu ymdrech ond trwy wasanaeth a gostyngeiddrwydd – a dyna yw’r gyfrinach y mae’r ystafell hon yn ei datgelu. Mewn gostyngeiddrwydd a gwasanaeth yr amlygir yr undod hwnnw ar ei orau. Trwy oddef ein gilydd a rhannu â’n gilydd mewn cariad y mae sylweddoli dibenion ei deyrnas Ef.

Gellir holi: pam arddel yr enw? Pam yr angen i ymgysegru i waith? Pam yr angen i fod yn un? Mae’r ateb yng nghlo’r ail bennod ar bymtheg o Efengyl Ioan: ‘Er mwyn i’r byd gredu.’ A dyna, medd Ioan, oedd y bwriad dros gofnodi’r geiriau, y geiriau a rannwyd unwaith mewn ystafell, geiriau’r Crist wrth iddo eiriol ar ran ei eglwys ddoe a heddiw – ar i ni arddel yr enw ac ymgysegru i’r enw a bod yn un drwy’r enw i rannu i’r byd dystiolaeth o’r Un sy’n ein caru a’n gwaredu.

Boed inni brofi o’i gwmnïaeth a’i arweiniad wrth inni fyfyrio ar ddigwydd yr Wythnos Fawr, y Groglith a’r Pasg.

Gyda’m cofion cynhesaf, Peter

Darlleniadau: Salm 121; Ioan 17; Effesiaid 6:13.

Gweddi: Diolch i ti, O Dad, am ddyfodiad yr Wythnos Fawr ym mhenllanw’r Grawys. Arwain ni trwy ein defosiwn a’n myfyrdod i gadw ffydd â’r Crist a fu’n eiriol tros ei ddisgyblion a thros ei ddilynwyr ymhob oes. Pâr i ni arddel yr enw, i ymgysegru i’w waith a’i wasanaeth ac i gael ein huno’n un ynddo. Ar drothwy’r Pasg gad i ni olrhain o’r newydd y ‘llwybrau a gerddodd Efe’ ac mewn dwyster a rhyfeddod i sylweddoli mai trosom ni y ‘rhoes Efe ei ddwylo pur ar led a gwisgo’r goron ddrain’. Ac er bod ugain canrif yn gwahanu’r digwydd, gad i ni, O Dad, brofi cymdeithas ei ddioddefiadau, a grym ei atgyfodiad ym mhrofiadau’r funud hon. Amen.

Gweddi’r Arglwydd