Myfyrdod ar gyfer dydd Sul, 31 Ionawr 2021
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]
Anwyliaid yr Anwel,
Mae’n siŵr eich bod yn holi: am beth mae’n siarad, dwedwch – ‘elwch a thawelwch’? Fe wyddom yn iawn ystyr y gair tawelwch, sef ‘bod yn amddifad o sŵn; distawrwydd neu lonyddwch’, ond pan awn ati i chwilio am elwch, mae hyd yn oed y Geiriadur Mawr yn gosod * wrth ei ochr gan awgrymu ei fod yn hen air – obsolete word. Ond daw Geiriadur Prifysgol Cymru i’r adwy gan nodi taw ystyr elwch yw ‘llawenydd, miri, twrw llawen, gorfoledd’ – mewn gwrthgyferbyniad llwyr i dawelwch. Wedi blwyddyn eithriadol anodd a thrist yn hanes cynifer o ganlyniad i haint y Coronafirws, mi fyddai elwch yn air i godi’n calon.
Pan fyddaf yn troi i’m llyfrgell i chwilota am lyfr, mi fyddaf yn ’nabod rhai wrth liw eu clawr, eraill o ran eu maint neu drwch eu tudalennau. Mi fydd arddull yr ysgrifen ar hyd meingefn y llyfr yn help weithiau, ond, yn fwy aml na heb, y teitl, hwnnw fydd yn tynnu sylw’r llygad cyn i mi estyn llaw i’w dynnu o’r silff. Wrth reswm, ma’na ffefrynnau, y rhai a dynnwyd droeon o’r silff a’u byseddu. Yn eu plith mae gennyf gasgliad o weddïau a myfyrdodau gan ŵr o’r enw Eddie Askew a theitl y cyntaf yn y gyfres yw: A Silence and a Shouting, a gyhoeddwyd er budd y Genhadaeth i Wahangleifion. Treuliodd Eddie Askew ei oes yn gweithio ymhlith gwahangleifion yn yr India cyn ei benodi yn brif gyfarwyddwr y genhadaeth honno. Y mae ei lyfrau a’i luniau wedi bod yn ysbrydoliaeth i gynifer.
A dyma gofio fod Sul olaf Ionawr yn Sul y Gwahangleifion ac yn gyfle i roi sylw i’r gwaith o ddwyn iachâd ac adferiad i’r rhai sy’n dioddef o’r clefyd.
Efallai bod tuedd inni feddwl taw un o glefydau dyddiau’r Beibl yw’r gwahanglwyf ac fe gofiwn am stori Naman yn yr Hen Destament yn trochi saith gwaith yn yr Iorddonen cyn iddo dderbyn iachâd (2 Brenhinoedd pen. 5). A bod yr Arglwydd Iesu wedi dod ar draws nifer o wahangleifion yn ystod ei weinidogaeth ddaearol. Reit ar gychwyn y weinidogaeth honno yn Galilea cawn hanesyn amdano yn iacháu gŵr o’r gwahanglwyf (Marc 1:40) ac yna yn Efengyl Luc (Luc 17: 11–19) mae’n iacháu deg gŵr gwahanglwyfus, ond dim ond un a ddychwelodd i ddiolch iddo.
Cofiwn hefyd iddo dderbyn gwahoddiad i swper yn nhŷ Seimon y gwahanglwyfus a bod gwraig wedi tarfu ar y swper hwnnw ac wedi torri ffiol o ennaint gwerthfawr er mwyn eneinio Iesu (Marc 14:3–9).
Ond efallai y cewch eich synnu o ddeall bod tros bedair miliwn o bobl yn dioddef o’r gwahanglwyf yn ein byd ni heddiw yng ngwledydd India, Brazil ac Indonesia ac mae’r Sul hwn yn gyfle inni roi sylw i’r gwaith y mae’r Genhadaeth i Wahangleifion yn ei gyflawni.
Ond dewch nôl am ennyd at deitl y llyfr a gyhoeddwyd er budd y genhadaeth honno: ‘A Silence and a Shouting’ – tawelwch ac elwch. Mae’r awdur yn rhyw awgrymu fod i dawelwch ei huodledd ynghanol sŵn a mwstwr ein byw. Mi fydd hi’n dymor y Baftas a’r Oscars gyda hyn a’r diwydiant ffilmiau yn ymgiprys am y gwobrau a’r sylw a ddaw yn eu sgil. Mae’n siŵr y bydd yn rhaid ailfeddwl dull y gwobrwyo eleni.
Rai blynyddoedd yn ôl derbyniodd y ffilm Into Great Silence gryn sylw a chymeradwyaeth y beirniaid ffilm a’r wasg. Ond yn wahanol i’r disgwyl, nid ffilm ydoedd hon a oedd yn cyflwyno anturiaethau diweddaraf Harry Potter neu James Bond, ond ffilm sy’n rhannu stori criw o fynachod Ffrengig mewn mynachlog ym mynyddoedd yr Alpau. Treuliant eu dyddiau mewn tawelwch, heb yngan yr un gair, ac mae symledd eu byw a’u hargyhoeddiad unplyg yn fynegiant gwahanol iawn i fwrlwm arferol bywyd.
Mi fydd adegau pan fydd ymgadw rhag dweud yn fynegiant mwy huawdl na thraethawd o eiriau. Mi gofia rhai ohonom am glasur Paul Simon ‘The Sound of Silence’ a gyfansoddodd yn 1974: ‘The words of the prophets are written on the subway walls and tenement halls and whispered in the sound of silence.’
Y mae Gair Duw yn frith o enghreifftiau o bobl yn troi i fannau tawel ac anghysbell o sŵn y byd a’i bethau ac yn darganfod yn y mannau hynny fod Duw yno hefyd.
Onid dyna oedd profiad Jacob wedi iddo ddianc i fan anghysbell ’rôl twyllo ei dad Isaac? Mae’n rhoi ei ben i lawr ar garreg, yn cysgu, yn breuddwydio, yn dihuno ac yn galw’r lle yn Bethel am iddo ganfod fod Duw yno a bu’r profiad yn fodd i newid holl gyfeiriad ei fywyd.
Man yr encilio i Moses oedd anialdir tir Midian ac yno wrth fugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith mae’n dod ar draws perth yn llosgi heb ei difa ac er mawr syndod iddo yn darganfod fod Duw yng nghanol y berth. ‘Tyn dy esgidiau oddi ar dy draed – mae’r man yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.’ Ac fe gafodd Elias brofiad cyffelyb; mae’n gorfod dianc rhag llid a chynddaredd Jesebel gwraig Ahab ’rôl llwyddiant yr ornest ar fynydd Carmel, i ogof ar fynydd Horeb, ac yn canfod fod Duw nid mewn cynyrfiadau nerthol – taran a gwynt a thân – ond mewn sibrydiad tawel. Wrth droi i dudalennau’r Testament Newydd, canfyddwn y gwerth y mae Iesu Grist ei hun yn ei roi ar encilio i fannau unig a chael fod Duw yno yn y tawelwch yn ei atgyfnerthu.
Ynghanol dwfn ddistawrwydd, ymhell o sŵn y dref,
Fe hoffai ddal cymundeb â’i Dad oedd yn y nef.
Y mae’r Salmydd yn nodi’r angen inni brofi tawelwch ac elwch: ‘Yn Nuw y mae fy enaid yn ymdawelu ac oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth’ (Salm 62:2). Ond pedair salm yn ddiweddarach mae yn newid cywair: ‘Gwaeddwch yn uchel i Dduw, holl bobl y byd! Canwch gân i ddweud mor wych ydy e, a’i foli’n hyfryd.’
Mi fydd angen inni, bob hyn a hyn, dorri’r tawelwch – pan fydd anghyfiawnder, trais a gorthrwm yn codi pen, a bryd hynny mi fydd angen inni leisio’n gryf a hyderus ein gwrthwynebiad. Un o ymadroddion cofiadwy Dr Martin Luther King oedd: ‘In the End, we will remember not the words of our enemies, but the silence of our friends.’
Mi fydd angen llais i fynegi ein protest, llais i roi sylw i’r anghenus a’r amddifad, ac i uniaethu â’r rhai a wahanwyd gan gymdeithas a chymuned oherwydd anabledd neu gred neu liw croen. Ar y Sul hwn y mae cyfle i godi’n llais drachefn dros y rhai sy’n dioddef yn ein byd a phedwar miliwn o wahangleifion yn eu plith. Elwch a Thawelwch.
Yn gymaint iti estyn llaw i’th gôd
A noddi’r gwaith a wneir mewn estron wlad
I wella cyflwr ac i adfer nerth
A dwyn y gobaith am gael gwir iachâd
Fe’i gwnaethost, do, i’r Un sy’n Arglwydd Nef
A phrofi wnei o rin ei fendith ef. (PMT)
Bendith Duw a’i amddiffyn a fyddo’n rhan.
Gyda’m cofion cynhesaf, Peter
Darlleniad: Salm 46 a Salm 62
Bydd yn dawel yn dy Dduw,
Ymlonydda ynddo Ef,
Ac yn sŵn a therfysg byd
Fe gei ynddo noddfa gref.
Duw yw fy nghraig a’m nerth
A’m cymorth rhag pob braw,
Ynddo y mae lloches im
Pa beth bynnag ddaw.
‘Pob perchen anadl molianned yr Arglwydd, molwch yr Arglwydd’ (Salm 150:6).
Gweddi: Arglwydd, ‘rho imi nerth i wneud fy rhan, i gario baich fy mrawd, i weini’n dirion ar y gwan a chynorthwyo’r tlawd. Ehanga ’mryd a gwared fi rhag culni o bob rhyw, rho imi weld pob mab i ti yn frawd i mi, O Dduw’. Amen.
Gweddi’r Arglwydd