GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Hen a newydd’
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]
Anwyliaid yr Anwel,
Mae gan y bardd Alfred Lord Tennyson gerdd sy’n sôn am ganu clychau clo a chlychau croeso blwyddyn.
Cenwch chwi glychau gwyllt ar draws y rhos,
Daeth terfyn blwydd – ei rhawd sy’n marw yn y nos;
Cenwch eich clychau trwm i’w harwyl hi.
Daw gwawr a newydd ddydd a newydd flwydd,
Seiniwch yn uwch ei dyfod hi, chwi glychau gwyllt. (efelychiad PMT)
Arferid ar un cyfnod glymu llieiniau dros forthwylion y clychau hynny a fyddai’n seinio terfyn yr hen flwyddyn, ond fe’u tynnwyd wedyn er mwyn iddynt seinio’n glir a soniarus ddyfodiad Blwyddyn Newydd.
Fe â’r gerdd yn ei blaen i gymell y clychau sy’n seinio troad y rhod i ganu allan pob gweithred ffals a hen anghydfod blin, pob cystudd a sarhad lesteiria fywyd dyn ac yna i ganu i mewn y newydd a gwneud hynny gyda seiniau hyderus gan orseddu’r gwir, a dwyn i’n rhan ei hedd a’i obaith gwiw – Cenwch, chwi glychau gwyllt.
Ac yna daw’r gerdd i’w therfyn gyda’r anogaeth i’r clychau hynny ganu’n uwch nes diasbedain dros y lle ddyfodiad Crist i’n byd: yn oleuni sy’n drech na phob tywyllwch ac yn gwmni i’r daith ymlaen.
Ring out the darkness of the land,
Ring in the Christ that is to be.
Wrth inni fwrw trem tros ysgwydd 2020 fe gofiwn taw blwyddyn anodd ydoedd, blwyddyn a’n hatgoffodd pa mor fregus yw bywyd, wrth inni ddwyn i gof y teuluoedd a fylchwyd a’r bywydau a effeithiwyd gan ledaeniad rheibus haint y Coronafirws. Bu’n flwyddyn a barodd inni ystyried ein gwerthoedd a’n hymwneud ag eraill; i werthfawrogi ymdrech ac ymroddiad y rhai fu’n estyn gofal a lliniaru dioddefaint. Yn flwyddyn a’n dysgodd i arafu’n cam ar droell garlamus ein byw a gwerthfawrogi’r syml a’r cyffredin.
Er mai ond un eiliad sy’n gwahaniaethu’r hen flwyddyn a dyfodiad blwyddyn newydd, mi fydd yn rhaid, mae’n siŵr, inni gario mesur o feichiau a chyfrifoldebau’r hen dros drothwy’r newydd. Ond boed i’r eiliad honno ddwyn i’n rhan hefyd obaith a ffydd, gwroldeb a gwyleidd-dra, hyder ac iachâd.
Ymhlith mesurau gwarchod y cloi i lawr presennol mae’r gwaharddiad i deithio y tu hwnt i’n cynefin. Ond flwyddyn yn ôl, cyn bod sôn am yr haint, fe wnaeth Meryl a minnau dreulio dydd Calan yng nghwmni cyfeillion ym mhentref Llanymynech a dyma sylwi wrth inni ddychwelyd fod ffordd osgoi’r Drenewydd wedi ei hagor. Mae’n rhaid ein bod wedi methu’r arwydd ar y ffordd i fyny gan i ni gymryd yr hen ffordd trwy’r dref a’i thagfeydd arferol.
Ond gymaint mwy hwylus oedd y ffordd newydd a’i harwynebedd llyfn a’i harwyddion llachar ac o ganlyniad buan y daethom i ben ein taith am adref.
Fe fu’r ffordd a luniwyd i osgoi pentref Llandysul yn fodd i arbed deng munud dda ar y daith i’r swyddfa yng Nghaerfyrddin pan oeddwn yn Ysgrifennydd Cyffredinol, ac mae’r ffordd osgoi rhwng Minffordd a Thremadog a gwblhawyd yn 2011 wedi diddymu’r tagfeydd ers llawer blwyddyn a fyddai’n llesteirio’r daith ar draws y cob a thrwy hen dref Porthmadog.
Mi gofia amryw ohonoch, mae’n siŵr, am yr anghenraid i arafu ac oedi wrth y tollborth ac ildio chwe cheiniog yn yr hen arian cyn y medrem groesi’r cob i Borthmadog.
Un o’r cymeriadau a fyddai’n casglu’r dreth wrth y tollborth oedd gŵr o’r enw Johnnie Lloyd Morris ac ma ’na stori amdano ar brynhawn prysur yn anterth y tymor ymwelwyr. Roedd hen ffermwr cefnog wedi arafu’i gerbyd wrth giât y cob, ond yn gyndyn i ollwng y pisyn chwech o’i law.
O’i weld yn crintach-fargeinio ac yn rhwystro’r llif o geir a lorïau a oedd wedi crynhoi y tu cefn iddo dyma Johnnie Lloyd Morris yn plygu at ffenest y car ac yn dweud wrth y ffermwr cyndyn: ‘Gwrandewch, ddyn – mi ddowch chi at giât ryw ddiwrnod, ac yn fanno mi fydd yn rhaid i chi ollwng y cwbl lot o’ch llaw.’
Ryn ni newydd groesi trwy borth blwyddyn newydd ac mi fydd yn llesol i ninnau hefyd ollwng ambell beth o’n gafael cyn mentro i’w newydd hynt – agwedd ac ymateb, chwerwedd a dial, hunanoldeb a thrachwant.
Mi fydd dyfodiad blwyddyn yn dwyn ei her a’i gyfle inni, drysau newydd yn agor, cyfrifoldebau newydd i’w hysgwyddo a chyfle i addunedu ac i ymddiried yn Un sy’n adnabod y ffordd.
Elfed yn ei emyn cyfarwydd sydd yn ein cymell i ddilyn yn ôl troed ein Harglwydd:
Arglwydd Iesu, dysg im gerdded
drwy y byd yn ôl dy droed,
’chollodd neb y ffordd i’r nefoedd
wrth dy ganlyn di erioed;
mae yn olau ond cael gweld dy wyneb Di.
A dyna anogaeth ddigonol inni i gyd ar gychwyn 2021, ar inni fentro i ffordd y flwyddyn newydd wedi adnewyddu’n ffydd yn yr Arglwydd Iesu a’i allu i’n harwain ac i fod yn gydymaith inni i’r daith ymlaen.
Ni ŵyr yr un ohonom faint o’r flwyddyn newydd hon y cawn gerdded ei ffordd anghyfarwydd – gobeithio y cawn ni oll ei cherdded hi i’w heithaf – ond o ymddiried yn Iesu Grist mi fydd ein hofnau yn diflannu, a’n calonnau yn cynhesu ar y daith:
Cawn wres ei gydymdeimlad
a’n cymell gan ei gariad
a grym ei Atgyfodiad ar y daith.
O, diolch byth am Geidwad ar y daith.
Y mae Ioan yn ei Efengyl yn cyfeirio at yr Arglwydd Iesu fel ‘Y Ffordd’: ‘Myfi yw’r Ffordd a’r Gwirionedd a’r Bywyd; nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi ac os ydych wedi fy adnabod i, byddwch yn adnabod y Tad hefyd.’
Pan fydd cymaint o bethau mewn bywyd yn ceisio’n herio a difa’n hyder a’n hanesmwytho, pan ddaw siom i fwrw’n hechel a gofid i’n hamgylchynu – os wnawn wrando’n ddigon astud fe glywn acenion yr addewid hwnnw a glywyd yng nghân yr angylion ac yn ymateb bugeiliaid a doethion o ganfod yr Un sy’n Immanuel, Duw gyda ni. Yr addewid sy’n treiddio’n gyson i ganol ein sefyllfaoedd a’n hamgylchiadau.
Pan fydd cynlluniau yn methu cyflawni’r disgwyl a’n trefniadau arferol heb gwrdd â’r gofyn, pan fydd sefydliadau a lwyddodd unwaith i greu cyffro a bywyd bellach yn merwino, pan fydd caerau a fu’n ymddangos yn ddi-syfl a chadarn bellach yn chwalu – os wnawn wrando’n ddigon astud, fe glywn y llais sy’n cyhoeddi: ‘Clywch, yr wyf fi gyda chwi.’
Anrheg ffarwél Iesu Grist i’w ddisgyblion cyn iddo ymadael â’r byd hwn ydoedd: ‘Ac yn awr yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd amser … hyd ddiwedd y byd.’
Y mae’r dweud hwnnw’n sefyll, yn addewid y medrwn ymddiried ynddo yn awr ac i bob yfory newydd a ddaw i’n rhan.
Mae trywydd bywyd am ymlaen, ac wrth i’r hen flwyddyn ddiflannu o’n calendrau a blwyddyn newydd ymagor boed i ni wrando eto ar y llais hwnnw’n datgan a gwireddu’r addewid o gwmnïaeth, ymgeledd a chymorth Duw wrth i ni fentro i lwybrau newydd ac anghyfarwydd blwyddyn arall. ‘Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen a gosodaist dy law arnaf …’ (Salm 139:5)
A boed i ni rannu Crist ag eraill fel ei dystion a’i ddisgyblion yn y byd – ‘yr un sydd â’r gallu i’n gwneud yn fwy na choncwerwyr am iddo ein caru ni.’ (Rhuf. 8:37)
Rho fwy o gariad at dy waith,
Rho fwy o sêl bob cam o’r daith;
Ein ffordd a dreiglwn arnat ti,
Y flwyddyn hon, o arwain ni. (Elfed)
Ga i ddymuno i bawb ohonoch Flwyddyn Newydd Dda wedi ei llenwi i’r ymylon gan obaith, nerth ac iechyd, llawenydd a dedwyddwch.
Cofion cynnes, Peter
DARLLENIAD: Deuteronomium 11:12; Galarnad 3:21–5; Nahum 1:7; Ioan 14:6.
GWEDDI: Arglwydd Dduw’r canrifoedd a’n blynyddoedd, Arglwydd pob bore newydd a dydd newydd, diolchwn i Ti am gael byw’r munudyn hwn, am gael bod yn rhan o broses amser sy’n digwydd nawr. Helpa ni i weld ein bywyd ar gynfas ehangach na’r cylch y trown ni ynddo’n arferol; helpa ni i ymestyn allan i gyffwrdd ag eraill, i fod yn ymwybodol o’u sefyllfaoedd a’u hangen, ac i’w cydnabod yn frodyr ac yn chwiorydd i ni.
Arglwydd, yn ein heiriolaeth cyflwynwn i’th ofal a’th sylw y rhai sy’n dioddef yn ein byd. Yng nghysgodion rhyfel a gwrthdaro, estyn dy heddwch; ynghanol anobaith, estyn dy obaith; ynghanol tristwch, dy gysur a’th lawenydd. Lle y mae dial ac atgasedd, estyn dy gariad; lle y cyfyd balchder, dysg i ni addfwynder; lle y mae gwacter ystyr a diffyg cred, rho i ni ffydd.
Rho i ni’r grym a’r gallu i wneud gwahaniaeth yn ein byd ac i fod yn ddisteiniaid dy greadigaeth Di. Estyn dy faddeuant inni am bob camwedd a bai o’n heiddo.
Datguddia i ni dy fwriadau a’th ewyllys mewn perthynas â’n bywyd ac agor di ddrysau cyfle yn ein hanes ac mewn hyder ffydd i fentro yn enw Crist.
Yn dy law di, Arglwydd y mae’n hamseroedd; cyflwynwn ein dyddiau i ti, gan ofyn am dy gymorth i wneud yr hyn yr wyt ti am inni ei gyflawni.
Cyflwynwn i ti bawb sydd mewn pryder a gofid a phoen, mewn hiraeth ac unigrwydd. Goleua ein llwybrau a chymorth ni i fyw yn fwy teilwng ohonot. Gwrando ein gweddïau yn enw Iesu Grist sy’n ddigyfnewid. Amen.
GWEDDI’R ARGLWYDD