Braint yw paratoi’r myfyrdodau hyn yn y gobaith eu bod yn eiriau i’n cynnal mewn dyddiau anodd.
Myfyrdod ar gyfer dydd Sul 7 Mawrth 2021
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]
Anwyliaid yr Anwel,
Ychydig dros wythnos yn ôl ymddeolodd Mrs Menna Jones o’i swydd fel rheolwraig swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru ar ôl cyflawni dros ugain mlynedd o wasanaeth egnïol. Menna oedd fy ysgrifenyddes bersonol i yn dilyn fy mhenodiad yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb yn niwedd 2004 ac os bu ysgrifenyddes ddelfrydol erioed, wel, yn ddi-os, Menna oedd honno ac rwy’n ddyledus iddi am ei dygnwch, ei chymorth a’i theyrngarwch trwy gydol y degawd y bûm i wrth y llyw.
Roedd cyfran helaeth o’m gwaith fel Ysgrifennydd Cyffredinol yn cael ei dreulio bob wythnos yn llunio llythyron. Câi’r llythyron swyddogol eu teipio ar bapur pennawd yr Undeb tra byddai’r gweddill yn cael eu danfon fel e-byst a’u gwibio’n electronig ar hyd rhwydweithiau’r We heb yr angen am stamp nac amlen.
Roedd cynnwys y llythyron hynny’n amrywio’n fawr. Y mwyafrif ohonynt yn ymateb i geisiadau unigolion ac eglwysi am wybodaeth neu gyfarwyddyd. Mi fyddai eraill yn cario cyfarchion yr Undeb i achlysuron penodol, boed yn ddathliad eglwysig neu’n gwrdd neilltuo gweinidog. Ambell lythyr wedyn yn gyfle i fynegi llawenydd neu’n gyfrwng i gyfleu cydymdeimlad yn dilyn profedigaeth, ac yna, nawr ac eilwaith mewn gwewyr, bu’n rhaid llunio ymateb i ambell lythyr llym o feirniadaeth a gyfeiriwyd atom.
Mi fyddai Menna wedi dethol rhai o’r llythyron a ddeuai drwy’r post cyn iddynt gyrraedd fy nesg i, gan gyfeirio’r ‘trash’, fel y byddai’n dweud, i’r bin sbwriel.
Mae’r ddawn o lythyru bellach wedi mynd yn beth prin; mae’r dechnoleg a greodd e-byst chwim a negeseuon testun, heb sôn am ddulliau cyfathrebu drwy drydar a gwefannau’r cyfryngau cymdeithasol, wedi peri fod y grefft o ysgrifennu llythyron yn araf ddiflannu.
Mi fydde Mam yn danfon llythyr ataf bob wythnos pan o’n i yn y coleg yn sôn shwd odd pethe gartre ar y ffarm a hynt a helynt y tylwyth ac yn cynnwys ambell bapur pumpunt nawr ac yn y man, gan fy siarsio i’w wario’n ddoeth a’m hatgoffa ‘nad odd rheini yn tyfu ar goed’.
Mi fydd cyfran go lew o’r post a ddaw’n ddyddiol i’n tŷ ni yn syrthio i gategori’r ‘trash’ ac yn mynd i’r fasged sbwriel i’w ailgylchu. Ond bob hyn a hyn daw llythyr wedi ei gyfeirio’n bersonol a hwnnw mewn llawysgrifen gan amlaf – llythyr i fynegi diolch am gymwynas neu garedigrwydd, llythyr o werthfawrogiad am yr hyn a rannwyd, llythyr i galonogi ac i ysbrydoli – a dyna i chi drysorau yw’r llythyron hynny.
Mae Meryl a finne wedi ysgrifennu ein siâr o lythyron dros y tair blynedd diwethaf – yn llythyron i garchar. Mi fydd pob amlen wedi ei hagor a’r cynnwys wedi ei ddarllen cyn iddo ddod i law’r derbynnydd a bellach, er mwyn diogelu nad yw’r papur wedi ei heintio gan gyffuriau, dim ond llungopi o’r gwreiddiol a estynnir i’r derbynnydd – trist!
Ymhlith y toreth llyfrau sydd gennyf yn fy llyfrgell ma’na un sy’n dwyn y teitl Letters from Prison – llyfr sy’n cynnwys ysgrifau gan weinidog Lutheraidd o’r enw Dietrich Bonhoeffer. Ysgrifau ydynt sy’n ymwneud â’r ffydd Gristnogol – llythyrau a ysgrifennwyd ganddo yn ystod ei garchariad gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
O gofio lleoliad eu hysgrifennu, y mae’r llythyron yn rhai hynod obeithiol ynghanol sefyllfa gyfyng ac argyfyngus. Ei ymgais yw holi’r cwestiwn beth bellach yw rôl a swyddogaeth yr Eglwys mewn byd sydd wedi dod i oed ac na wêl yr angen mwyach am ddimensiwn ysbrydol mewn bywyd? Awgryma Bonhoeffer fod yn rhaid i’r Eglwys ryddhau ffydd o harnais crefydd, ei drefn a’i gonfensiwn, er mwyn canfod y gwrthrych sy’n rhoi ystyr i’n holl fodolaeth a galluogi pobl i ganfod Crist, i ymddiried ynddo a’i adnabod. I acennu geiriau Ann Griffiths yn ei hemyn grymus: ‘Ni ddichon byd a’i holl deganau fodloni fy serchiadau nawr … O am syllu ar ei Berson, rhyfeddod pob rhyfeddod yw.’ Ni ryddhawyd Bonhoeffer o’r carchar. Fe’i dienyddiwyd, yn 39 mlwydd oed, ychydig ddiwrnodau cyn terfyn y rhyfel a chollodd yr eglwys Gristnogol un o’i meddylwyr a’i diwinyddion pennaf.
Ganrifoedd lawer ynghynt cawn enghraifft arall o ŵr mewn carchar yn danfon llythyron ac fe lwyddodd y llythyron hynny hefyd i galonogi a chyfarwyddo’r Cristnogion a’u darllenodd. Yr Apostol Paul oedd y gŵr hwnnw. Gwyddai yntau’n dda am rwystredigaethau a diflastod gorfod treulio cyfnodau hir mewn carchar – yn Philipi unwaith, lle y bu ef a Silas yn canu mawl i Dduw mewn cyffion. Yng Nghesarea wedyn, ac fe awgryma rhai iddo dreulio cyfnod yng ngharchar Effesus yn ogystal. Fe’i dygwyd i Rufain mewn cyffion ac yn ystod ei garchariad yno ysgrifennodd ei lythyron at Gristnogion Philipi a Colosia ac oddi yno hefyd yr ysgrifennodd ei lythyr at Philemon i achub cam ei was Onesimus. Mi fyddai’r Testament Newydd wedi bod dipyn tlotach pe na fyddai’r llythyron hynny o garchar wedi eu cynnwys, gan eu bod ymhlith trysorau’r ffydd.
Mae’r Apostol Paul yn ei ail lythyr at Eglwys Corinth yn cyfeirio at ei gyd-Gristnogion fel llythyrau’r Crist. ‘Llythyr Crist ydych chwi, nid wedi ei ysgrifennu ag inc ond ag Ysbryd y Duw Byw.’ (2 Cor. 3:3).
Y mae’r neges (sef yr Efengyl) yr wyf fi wedi ei rannu i chwi, medde Paul, yn neges na chofnodwyd mewn inc a fyddai’n pylu gydag amser, ond a ysgrifennwyd ar galonnau pobl gan greu afiaith ac argyhoeddiad.
Ro’dd hi’n arferol yn yr hen fyd i bobl gario llythyron cymeradwyaeth gyda nhw pan fyddent ar ymweliad â gwlad ddieithr, llythyron wedi eu hysgrifennu gan rywrai a oedd yn eu hadnabod ac a fedrai dystio i’w buchedd a’u hymarweddiad.
Braint a chyfrifoldeb y Cristion ydyw dangos Iesu a rhannu ei neges i eraill; bod ein bywyd ni a’n holl ymwneud yn adlewyrchu ei ogoniant a’i allu a bod modd i eraill ei ganfod ynom ni a dod i’w adnabod a’i dderbyn. ‘Llythyr Crist ydych chwi.’
Boed i ni fod yn llythyrau cymeradwyaeth Crist ac yn gyfryngau newyddion da i’r byd. ‘A boed i eraill trwof fi adnabod cariad Duw.’
Gyda’m cyfarchion cynhesaf, Peter
DARLLENIADAU: 2 Corinthiaid 3:1–6; 2 Thesaloniaid 2:15–16; Rhufeiniaid 1:1–6
GWEDDI: ‘O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw, yn llwyr gysegru ’mywyd i wasanaethu Duw.’ O Dduw pob gras, cynorthwya fi trwy fy mywyd a’m tystiolaeth i fod yn Llythyr Crist a’i ddangos Ef yn ei gyfoeth anchwiliadwy a’i brydferthwch digymar. Mor aml fy ngweld i a wna pobl yn hytrach na’i ganfod Ef. Ysgrifenna ar fy nghalon eiriau dy wirionedd a thrwy dy Ysbryd cyfeiria fy mywyd yn glod ac yn ogoniant i’th enw. Amen.
GWEDDI’R ARGLWYDD