Geiriau i’n Cynnal: Grym geiriau

Geiriau i’n Cynnal: Grym geiriau

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Myfyrdod Sul olaf Chwefror 2021

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Ar gychwyn y gyfrol Creu Argraff, sy’n olrhain hanes Gwasg Gomer, Llandysul, y mae John Lewis, ŵyr J.D. Lewis a sefydlodd y wasg yn 1892, yn nodi fod y gyfrol yn gyflwynedig: ‘Er cof am Dad-cu a Mam-gu Gomerian – y dewrion a gamodd i fyd y gair.

Ers cychwyn y cloi i lawr cyntaf ym mis Mawrth 2020 fy ngobaith wrth baratoi’r myfyrdodau wythnosol hyn oedd iddynt fod yn ‘eiriau i’n cynnal’ mewn dyddiau anodd. Diolch i William am ei gymwynas yn eu llwytho ar wefannau a diolch i Ceris, Joan a’r ddau John a fu’n dosbarthu’r deunydd ymhlith aelodau’r gwahanol gapeli. Diolch hefyd am eich ymateb caredig a’ch gwerthfawrogiad.

Mi fydd gan eiriau’r gallu i drawsnewid bywydau, boed ar lafar neu mewn ysgrifen. Medrant ysgogi ynom hyder a gwroldeb, angerdd a brwdfrydedd, ond medrant hefyd ein clwyfo a’n tristáu. Medr geiriau gyflyru ein hemosiwn neu dynnu’r gwynt o’n hwyliau, ein dwysbigo neu ennyn ynom orfoledd – Grym Geiriau!

‘Bydded ymadroddion fy ngenau a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.’ (Salm 19:14) ‘Y geiriau a ddaw o’m genau.’ Unwaith eto safwn ar drothwy gŵyl ein nawddsant Dewi – dydd i ymhyfrydu yn ein tras a’n treftadaeth fel cenedl a chyfle i ddwyn i gof y geiriau hynny a briodolir iddo: ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen, a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.’

Geiriau ydynt a ynganwyd gan Dewi oddeutu’r flwyddyn 589 O.C. ac eto maent yn dal i osod cyweirnod a chyfeiriad i’n dathlu blynyddol bymtheg canrif yn ddiweddarach. Ac onid dyna yw grym geiriau – fod iddynt barhad a’u bod yn medru goroesi a phontio’r canrifoedd?

Byddwch – Cedwch – Gwnewch, meddai Dewi Sant ac y mae llawenydd a ffydd a chred yn dilyn wedyn a’r trysor hwnnw’n cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.

O stôr ddoe dy stori ddaw
Yn ei hôl, fel sain alaw,
A hyder mwyn d’eiriau mad
Yn ennyn eu harweiniad.  (PMT)

Byddwch lawen, medd Dewi Sant, ac onid yw honno’n rhinwedd werthfawr? Y llawenydd a fedr ein codi uwchlaw ein cyfyngiadau a’n hanawsterau a pheri inni weld pethe o bersbectif gwahanol. Y llawenydd sy’n creu bodlonrwydd a dedwyddwch, y llawenydd fydd yn tynnu gwên i’n hwyneb a chwerthiniad ar dro.

Roedd yna weinidog gan yr Annibynwyr yn ardal Clunderwen nôl yn y pumdegau o’r enw Joseff James. Roedd yn bregethwr praff a thra phoblogaidd ar waetha’r ffaith fod arno atal dweud difrifol. Ma’na stori anfarwol amdano yn camu ar y trên yn stesion Clunderwen ryw fore, a phwy o’dd yn eistedd yn yr un compartment ond y Parchg Ifan Afan, gweinidog Blaenwaun, ac ro’dd atal dweud ar hwnnw hefyd.

Wrth i’r trên adael yr orsaf dyma Ifan Afan yn dweud wrth Joseff James: ‘JJJ-JO, wi-w-w-wedi gw-w-witho englyn. Licset t-ti ei gl-glywed e?’ A bod Joseff James wedi ateb: ‘D-dw-dwed e’ g-g-gloi. W-wi’n mynd m-m-mas yn Abertawe.’

Mi fyddaf yn gwenu o gofio’r stori, ond mi fedraf uniaethu â phrofiad y ddau gan i mi brofi’r un anhawster pan o’n i’n grwt bach. Do’dd y geiriau rywsut ddim yn dod mas yn iawn, rhyw atal ar fy lleferydd, ac fe lusgodd Mam fi rownd sawl clinic yn ardal Llanelli i geisio delio â’r broblem. Ond pan ddes i yn un ar ddeg yr hyn a ges i am basio’r 11+ oedd gwersi adrodd gan Madam Tydfil Jones, y Bynea. Ro’n i’n mynd bob nos Iau ar ôl ’rysgol ar y bws i’r Bynea am wers adrodd ac iddi hi rwy’n ddyledus am orchfygu’r anabledd hwnnw. Ond ers y cyfnod hwnnw mae gen i gydymdeimlad mawr â rhai sy’n dioddef anabledd o bob math, ac yn arbennig anabledd llefaru.

Cedwch eich ffydd – Ffydd a rydd fynegiant i’r hyn a gredwn ac sy’n gymhelliad i’n gweithredu. Y mae’r Beibl yn datgan fod Gair Duw yn air i’w gredu – yn air sydd byth yn dychwelyd yn wag ac yn air sy’n cynnig ei oleuni a’i gyfeiriad. Awgrymodd y Pab Gregori fod y Beibl yn debyg i afon lydan, lle medr ŵyn bach stablan yn ei throchion ac eliffantod nofio yn ei chanol – hynny yw, fod yna ddigon yn ei gynnwys ar gyfer un sydd newydd ddod i’r ffydd ynghyd â’r sant pennaf. Ond er mwyn profi o’i rin a’i sylwedd, rhaid camu i’w ddyfroedd.

Ffydd wedi ei gwreiddio mewn hanes yw’r Ffydd Gristnogol, ffydd sy’n seiliedig, nid ar ryw theori haniaethol, ond ar ddigwyddiadau mewn gofod ac amser – nid ar y syniad o Dduw, ond Duw ei hunan, a bod y Duw hwnnw wedi tynnu’n agos atom yn Iesu Grist ac wedi datguddio ei ewyllys a’i fwriadau i’w fyd. Dyna a rydd i’n ffydd awdurdod a hygrededd: ‘Yr hyn oedd yno o’r dechreuad, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weld â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo, ynglŷn â gair y bywyd – dyna’r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi.’ (Llythyr 1af Ioan, 1:1)

Mynegwch y llawenydd ac efelychwch y ffydd yw anogaeth Dewi, ond y mae hefyd am gyplysu’r ymarferol: ‘a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi.’ Y mae’r gyfrinach honno wrth wraidd pob cyffro, pob datblygiad a phob symud mlân. Os ydym am newid y byd ac ennyn gwerthoedd safadwy, mae’n rhaid gwneud y pethau bychain, a’u gwneud yn ymroddgar a chyson.

Y mae’r Beibl yn rhoi amlygrwydd i’r bychan hefyd. Y proffwyd Sechareia sydd yn ein hatgoffa: ‘Na ddiystyrwch ddydd y pethau bychain.’ Proffwyd yr ailgydio yw Sechareia, yn awyddus i galonogi’r genedl mewn cyfnod anodd. Ar eu dychweliad o gaethglud Babilon mae’r genedl yn canfod fod Jerwsalem yn ddiffaith a’r deml yn adfail; yr oedd yr adnoddau a’r deunydd yn brin a’r gwrthwynebiad o gyfeiriad byddinoedd taleithiol yn eu llethu. Rywsut mae’r beichiau’n ymddangos yn ormod iddynt eu hysgwyddo, yn griw bychan, diymadferth wyneb yn wyneb â’r dasg enfawr oedd i’w chyflawni ac y ma’na rai yn eu plith sydd am roi’r ffidil yn y to a rhoi gorau i’r ymdrech.

Geilw Sechareia ar y genedl i ymddiried nid yn eu hadnoddau bregus ond yn adnoddau digonol Duw a gweld mewn pethau bychain botensial y pethau mawr.

Y mae Iesu Grist yn dweud wrthym: ‘Os gallwn fod yn ffyddlon yn yr ychydig, cawn brofi bendithion mwy.’ (Luc 16:10) Y mae’r pum talent yn troi’n ddeg a’r deg talent yn troi’n ugain ac y mae yna wahoddiad i ni dderbyn o lawnder a llawenydd yr Arglwydd.

Rhodd Duw yw cenedl: ‘Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion i drigo ar wyneb y ddaear, ac a’u clymodd ynghyd yn un sypyn bywyd – yn un teulu i fyw ynghyd mewn brawdgarwch a chymod.’

Un o’r cenhedloedd hynny yw ein cenedl ni – cenedl y Cymry – cenedl a gododd, ac sy’n dal i godi, gwŷr a merched blaengar ymhob cylch o fywyd, a thrwy eu hymdrech a’u hymwneud, eu doniau a’u dysg, yn dwyn amlygrwydd byd i’r genedl fechan hon.

Ar ŵyl ein nawddsant Dewi boed inni ymfalchïo yn ein tras a’n treftadaeth, yn ein crefydd a’n cân. Dyma’r elfennau nodedig sydd wedi cyfrannu at ein bodolaeth fel cenedl; hebddynt nid oes gennym nac enw, na llais, na hawliau, nac aelodaeth ym mrawdoliaeth y ddynoliaeth. Ac fe saif y cyfrifoldeb arnom ni i hybu a diogelu’r gwerthoedd hynny. I fynegi’r llawenydd, i wneud y pethau bychain ac i amlygu’r ffydd sy’n esgor ar gariad a heddwch a chymod rhwng dyn a’i gyd-ddyn.

Geilw ddoe ein Gŵyl Ddewi – i fychan
A’i fuchedd i’n llonni,
Ei nawdd a fynnwn heddi
A’i nwyd i’n cyflyru ni.   (PMT)

Gyda’m cofio’n cynhesaf, Peter

DARLLENIAD: Sechareia 4:10; Salm 19; Ioan 1:1–18

GWEDDI: Mawrygwn dy enw, O Dduw, am ein nawddsant Dewi; am ei fywyd a’i fuchedd, ei esiampl a’i ymarweddiad ac am ei anogaeth inni fyw bywydau a fydd yn esgor ar lawenydd, yn seiliedig ar ffydd ac sy’n rhoi mynegiant i’r ymarferol. Pâr i ni yn ein cylchoedd a’n cymunedau adlewyrchu’r egwyddorion hynny, i ymarfer ein hiaith a chadw’r urddas a rydd i’r genedl hon ei hunaniaeth a’i harbenigrwydd.

Gweddïwn dros genhadaeth dy eglwys di yn y byd. Diolch i ti am y rhai hynny a daniwyd gan gomisiwn dy Fab, ein Harglwydd Iesu, i fynd i’r holl fyd ac i bregethu a chyfathrebu’r ffydd. Gweddïwn am dy nerth a’th gymorth i’r afiach a’r anghenus, ac am dy dangnefedd a’th gysur i’r rhai sydd mewn galar a hiraeth. Gweddïwn am dy gysgod a’th amddiffyn trosom a thros bawb sy’n annwyl yn ein golwg. Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist, Amen.

GWEDDI’R ARGLWYDD