GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Gaeaf’
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y Myfyrdod isod]
Anwyliaid yr Anwel,
Mi fyddaf yn edmygu’r ddawn a roed i rai o fedru cyfathrebu’n effeithiol – o gyflwyno neges glir a chryno a chofiadwy.
Cynhaliwyd ysgol Sadwrn un tro ar gyfer pregethwyr ac fel rhan o arlwy’r dydd gosodwyd y dasg o lunio sgerbwd tri phen yn seiliedig ar destunau penodol o’r Ysgrythur. Yr un a ddaeth i’r brig oedd sgerbwd pregeth ar y testun: ‘A Benaia a laddodd lew mewn pydew yn y gaeaf.’ Y mae’r adnod yn ymddangos yn Llyfr Cyntaf Cronicl yn yr Hen Destament (pen. 11, adn. 22) ac yn cyfeirio at gamp Benaia, un o wŷr nerthol byddin y brenin Dafydd. Dyma’r tri phen. Y cyntaf: ‘Gwneud peth anodd – lladd llew.’ Yr ail ben: ‘Gwneud peth anodd mewn lle anodd – lladd llew mewn pydew.’ A’r trydydd pen: ‘Gwneud peth anodd mewn lle anodd, mewn cyfnod anodd –lladd llew mewn pydew yn y gaeaf.’ Mi fydd yr atgof yn codi gwên ond mae’r dweud syml yn fodd i’n hatgoffa fod bywyd ar adegau yn eithriadol anodd a chyfyng a chaled.
Mae’n aeaf arnom unwaith eto wrth i’r hin oeri ac ambell storom eira fygwth. Ond rhywsut y mae’r gaeaf hwn yn wahanol ac wedi dwyn ei fesur ychwanegol o lymdra a gerwinder, gofid a thristwch i’n rhan. Y mae’r ystadegau syn sy’n nodi’r cynnydd yn niferoedd y rhai sy’n dioddef bellach o haint y Coronafirws ac o’r marwolaethau dyddiol yn ein brawychu ac yn fodd i’n hatgoffa o’r angen i fod yn wyliadwrus ac i gadw’n saff.
Y mae’r salmydd yn ein cyfeirio yn Salm 91 at y Duw sy’n gwarchod – y Duw sy’n ein cadw’n ddiogel.
Y mae’r sawl sy’n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog, yn dweud wrth yr Arglwydd: Fy noddfa a’m caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo. Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl yr heliwr, ac oddi wrth bla difaol; bydd yn cysgodi drosot â’i esgyll a chei nodded dan ei adenydd.
(‘Bydd e’n rhoi ei adain drosot ti a byddi’n saff o dan blu ei adenydd’ yw cyfieithiad beibl.net.)
Ymhlith cyfrolau Robin Williams y mae un yn dwyn y teitl Esgyrn Eira ac er nad oes gan y cynnwys fawr ddim i’w ddweud am hinsawdd y tywydd, y mae’n deitl awgrymog. Esgyrn eira yw’r hyn fydd ar ôl wedi i’r lluwchfeydd ddiflannu – yr olion yng nghysgod gwrychoedd sydd heb ddadmer yn llwyr.
Mi fyddai pobl Sir Benfro yn arfer dweud, os digwydd i’r esgyrn eira aros yn hir, taw disgwyl am ragor y maent, a bron yn ddieithriad mi fyddai ambell gawod yn siŵr o ddisgyn.
A barnu oddi wrth ragolygon y tywydd mae’n debygol y bydd hi’n aeaf am dipyn eto a siâr go lew o’i oerwynt a’i eira ar ei ffordd cyn y dychwel y gwanwyn i’r tir drachefn. Felly daliwn ati a’n ffydd a’n hymddiriedaeth yn Nuw.
A chan ein bod yn nhymor y gaeaf, mae’n ddiddorol nodi’r hyn sydd gan y Beibl i’w ddweud wrthym am y tymor hwn.
‘A’r gaeaf oedd hi,’ meddai Ioan yn y ddegfed bennod o’i Efengyl, gan ddatgelu ei ddawn i roi sylw i ryw fanylyn a fedr gyfoethogi ein deall. Y mae Ioan yn cyflwyno i ni gameo o’r Crist yn dod wyneb yn wyneb â’i wrthwynebwyr yng Nghloestr Solomon. Maent yn gwrthod credu mai yntau oedd y Meseia ac wrthi’n casglu cerrig i’w labyddio, a rywsut mae’r ymadrodd hwnnw ‘a’r gaeaf oedd hi’ yn bortread o oerfelgarwch perthynas, ac yn arwyddo cychwyn y cynllwyn ymhlith rhai o’r Iddewon i gael gwared â’r Crist.
Ym mhennod glo Llythyr Cyntaf Paul at eglwys Corinth y mae’r Apostol Paul yn rhannu iddynt ei obeithion i ddod atynt cyn y gaeaf ac yn sôn fan honno am gynlluniau ar gyfer taith. Taith ydoedd a oedd yn cwmpasu lleoliadau newydd a thiriogaeth na fentrwyd iddi gynt. Bu’r weledigaeth a gafodd o’r gŵr o Facedonia yn ei gymell ‘i ddod trosodd i’w cynorthwyo’ yn ysgogiad iddo fentro i gyfandir Ewrop ac i ehangu maes ei genhadaeth – ‘oherwydd,’ meddai, ‘y mae drws wedi ei agor imi, un eang ac effeithiol, er bod llawer o wrthwynebwyr – bydded inni sefyll yn wrol a chadarn yn y ffydd ac mewn cariad.’ Y mae hwnnw’n gymhelliad digonol i daith blwyddyn newydd hefyd, taith yr edrychwn ymlaen at ei cherdded gan fentro iddi mewn ffydd ac ymddiriedaeth.
Bob hyn a hyn mi fydd Duw yn gosod o’n blaen, hyd yn oed ynghanol anawsterau, ddrws agored a gwahoddiad i fentro trwyddo a phrofi o’r cyfleoedd y mae ef wedi eu darparu ar ein cyfer. Geilw hynny ar adegau am wroldeb a hyder; geilw arnom i beidio â bodloni ar bethau fel ag y ma’n nhw, ond i fentro gwneud yn wahanol.
Y mae’r modd y dehonglwn sefyllfaoedd yn fater o ganfyddiad; gallwn ddarllen yr ystadegau a dod i’r casgliad mai colli tir yr ydym a therfyn anorfod ar y gorwel, neu fe fedrwn weld y sefyllfa yn gyfrwng i’n cyflyru i fentro a gweithredu.
Y mae’r Apostol Paul wedyn yn cloi ei lythyr olaf at weinidog ifanc o’r enw Timotheus gyda’r anogaeth: ‘Gwna dy orau i ddod ataf cyn y gaeaf.’
Anogaeth am gwmni a chymorth mewn gaeaf o sefyllfa ac ynghanol amgylchiadau anodd. Y mae Paul yn y carchar yn Rhufain – y mae dedfryd y llys wedi mynd yn ei erbyn, ac y mae yntau yn wynebu ei ddienyddio.
Mae llawer o’i gymdeithion wedi mynd a’i adael, ac y mae’n awyddus i rannu’r gyfeillach olaf hon â’r rhai a barhaodd yn deyrngar iddo. Y mae gaeaf yn y cyswllt hwn yn awgrymu tyndra, gofid a thrallod. Yr oedd yn aeaf ar Paul mewn mwy nag un ystyr, a geilw am gysur a chwmni cyfeillion i gynnal breichiau ynghanol argyfwng.
Adroddir stori am yr athrylith a’r ysgolhaig Albert Einstein yn teithio ar drên ryw ddiwrnod pan ddaeth y conductor ar hyd y coridor a holi am ei docyn. Aeth Einstein ati i chwilio ei bocedi a’i waled am y tocyn ond heb lwyddiant. Estynnodd am ei gâs pacio a chwilota yn hwnnw, ond methodd yn lân â dod o hyd iddo. ‘Peidiwch â phoeni,’ meddai’r conductor, ‘rwy’n gwybod yn iawn pwy ydych chi ac rwy’n siŵr eich bod wedi prynu tocyn.’ ‘Ŵr ifanc,’ atebodd Einstein, ‘rwyf finne hefyd yn gwybod pwy ydwyf ond mae’n rhaid i mi ddod o hyd i’r tocyn er mwyn gwybod i ble’r wy’n mynd.’
Y mae hynny’r un mor wir am deithiau trên ag ydyw am daith bywyd – bod canfod trywydd a chyfeiriad yn hanfodol. Rhaid darganfod y tocyn er mwyn gwybod i ble ryn ni’n mynd!
Er bod gaeaf yn medru dwyn ei gyfyngiadau a’i anawsterau i’n rhan, medr hefyd gynnig inni her a grymuso’n hyder.
Yn y drydedd bennod o Lyfr Joshua yn yr Hen Destament ryn ni’n cael hanes y genedl yn paratoi i adael y gwersyll a chroesi’r Iorddonen i feddiannu gwlad Cannan – mae arch y cyfamod wedi ei chodi a dyma Joshua yn codi ar ei draed ac yn annerch y bobl: ‘Ymgysegrwch,’ meddai, ‘oherwydd yfory bydd yr Arglwydd yn gwneud rhyfeddodau yn eich mysg … (Josua 3: 5)
Y mae’r proffwyd Jeremeia yn ein hatgoffa fod gan Dduw ‘gynlluniau ar gyfer ei bobl, cynlluniau i’w llwyddo ac nid i’w llesteirio, cynlluniau i roi iddynt obaith a dyfodol.’ (Jer. 29:11). A geilw Habacuc arnom i ‘ddisgwyl yn amyneddgar am y weledigaeth y mae Duw wedi ei darparu a phan ddatguddir hi, i redeg â hi a’i rhannu.’ (Hab. 2:2)
Wrth ddisgwyl oddi wrth yr Arglwydd, medd Eseia: ‘fe adnewyddir ein nerth ac fe redwn.’ (Eseia 40:31)
Y mae Gair Duw yn air i’w gredu ac wrth wraidd pob menter ffydd a phob cynllunio ar gyfer yr yfory ma’na gwestiwn sy’n rhaid i ni ei holi – Beth yw bwriad Duw yn hyn i gyd? – ac mi fydd dirnad ei ewyllys a’i fwriadau yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y tymor hwn.
Ynghanol gaeaf a’i brofiadau cyfyng boed inni rannu meddylfryd y cenhadwr William Carey a ddywedodd: ‘Disgwyliwch bethau mawr oddi wrth Dduw;cyflawnwch bethau mawr dros Dduw.’
Bendith Duw arnoch a’i amddiffyn, a chyda fy nghofion cynhesaf, Peter
DARLLENIADAU: Llyfr y Salmau:17:7; 18:35; 60:5; 63:8; 73:23; 108:6; 139:7–10.
GWEDDI: Diolch i Ti, O Dad, am dy amddiffyn a’th arweiniad inni trwy ddyddiau’r flwyddyn anodd a aeth heibio; cadw ni yng nghelwrn dy law a chyfeiria ni i gyflawni dy fwriadau a gwneuthur dy ewyllys. Diolch dy fod ti yn ddigyfnewid, yn parhau yn noddfa ac yn nerth ac yn gymorth inni ymhob cyfyngder. Diolch am dy fendithion a’th ddaioni inni. Tywys ni i ryngu dy fodd a dwyn clod i’th enw, yn enw ac yn haeddiant Iesu Grist. Amen.
GWEDDI’R ARGLWYDD