Myfyrdod Sul cyntaf Mai 2021
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y Myfyrdod isod]
Anwyliaid yr Anwel,
Dewch, chwi wŷr blin y ddinas, – i weled
Mis Mai yn ei urddas,
Gwelwch ei glir glychau glas
Yn filoedd hyd y foelas.
Odi, mae’n fis Mai unwaith eto – mis y gwres, mis blagur a thyfiant – ac fe brofwyd yr elfennau hynny’n barod mewn gardd a dôl yn sgil ambell ddiwrnod heulog a chynnes.
Ond nid mis y clychau glas yn unig yw mis Mai, ond mis sy’n cynnwys y trefniant blynyddol sydd yn ein hatgoffa o’n cyfrifoldeb at gyd-ddyn ac yn gyfle i ddwyn sylw at waith Cymorth Cristnogol. Nod y mudiad yw ymdrechu i ddileu tlodi ac anghyfiawnder a dwyn cymorth ac ymgeledd i gynifer sydd mewn angen yn ein byd.
Arwyddair pwerus y mudiad ers rhai blynyddoedd bellach ydyw: ‘Credwn mewn byw cyn marw’, ac mae emyn grymus y Parchg Tudor Davies yn cadarnhau’r dyhead hwnnw:
Cofia’r newynog, nefol Dad,
Filiynau’n llesg a thrist eu stad
Sy’n llusgo byw yng nghysgod bedd
Ac angau’n rhythu yn eu gwedd.
Rwyf wrthi’n paratoi’r myfyrdod hwn ymhell o adref yr wythnos hon. Bu’n rhaid i Meryl a minnau deithio i Bridlington fore Iau ar gyfer angladd John, brawd Meryl, a fu farw’n ddisyfyd rai dyddiau yn ôl. Bu’r golled yn un a ddaeth â’i fesur o dristwch i’n rhan fel teulu, gan ein hatgoffa pa mor fregus a brau yw bywyd.
Wrth droi’r switch ar deledu y dyddiau hyn prin y gallwn beidio â sylweddoli cymaint o dristwch sydd yn y byd. Mae’r sefyllfa enbydus yn India yn sgil lledaeniad rheibus haint y Coronafeirws wedi’n syfrdanu a maint y colledion yn ddifrifol.
Oherwydd effeithiau’r pandemig bydd Cymorth Cristnogol eleni yn ddigwyddiad rhithiol gyda gweithgareddau dros y we a chyfle i gyfrannu at y gwaith trwy gynnal digwyddiadau codi arian yn lleol. Bwriad yr ymgyrch eleni yw canolbwyntio ar y sychder sy’n wynebu nifer o wledydd ar draws y byd ac am yr angen i ddiogelu cyflenwad o ddŵr glân i’w yfed ac i ddyfrhau’r cnwd.
Mi fydda i’n sylwi yn y boreau fod llawer o blant Ysgol Plascrug a’r Ysgol Gymraeg yn croesi drwy fynwent y dref er mwyn cyrraedd yr ysgol mewn pryd. Ma’na stori am athrawes yn holi merch fach yn ei dosbarth pa ffordd yr oedd hi’n mynd adref o’r ysgol, a’i bod hithau wedi ateb, ‘Trwy’r fynwent, Miss.’ ‘Oes dim ofn arnoch?’ holodd yr athrawes. ‘Dim o gwbwl,’ atebodd y ferch fach, ‘oherwydd chi’n gweld mae fy nghartref yr ochr arall a chroeso yn fy nisgwyl.’
Nid oes dim i’w ofni mewn mynwent, ond i gynifer o bobl yn ein byd y mae byw yng nghysgod bedd yn brofiad real wyneb yn wyneb ag ansicrwydd bywyd, ei dlodi a’i angen gwirioneddol, a hwythau heb wybod yn iawn o ble y daw’r pryd bwyd nesaf.
Cymwynas Cymorth Cristnogol yw ein gwneud ni’n ymwybodol o angen cyd-ddyn, ac apelio am ein cefnogaeth yn flynyddol i hybu’r gwaith.
Mae Mathew yn yr wythfed bennod o’i Efengyl yn sôn am Iesu Grist yn cerdded trwy fynwent un tro. Roedd ef a’i ddisgyblion wedi croesi môr Galilea ac wedi dod i le o’r enw Gadara ac yno y mae’n cyfarfod â dyn yn rhodio ymysg y beddau, dyn gwallgo’ wedi ei feddiannu gan gythreuliaid. Gofynnodd Iesu iddo beth oedd ei enw, ac atebodd yntau, ‘Lleng’ – am fod ’na gymaint wedi ei feddiannu.
Fe gofiwch yr hanes, mae’n siŵr. Cyflawnodd Iesu wyrth yn y fynwent; danfonodd yr ysbrydion aflan allan o’r dyn ac i mewn i genfaint o foch oedd yn pori wrth law, a rhedodd y rheini dros y dibyn ac i’r môr.
Wedi i’r wyrth ddigwydd roedd y gŵr a oedd yn rhodio ymysg y beddau yn awyddus i ddilyn Iesu, ond dywedodd Iesu wrtho am iddo aros ymysg ei bobl a sôn wrthynt am fawrion weithredoedd Duw.
Gwyrth ymysg y beddau a’r un a iachawyd yn dod yn dyst i Iesu Grist. A thystion ydym ninnau hefyd i’r un Arglwydd sy’n medru newid cyfeiriad bywyd a chyflawni gwyrthiau yn ein hanes ni a pheri inni brofi o’i nerth a’i gysur yng nghanol colledion a thristwch.
Y mae’r egwyddor a danlinellir yn llawer o ddamhegion Iesu Grist yn taro dyfnder yng ngwaith mudiad Cymorth Cristnogol wrth inni ymestyn allan i’r byd a chwrdd ag angen cyd-ddyn pwy bynnag y bo. Mi fydd ein cyfran ni eleni, beth bynnag ei faint neu ei werth, yn cael ei ychwanegu at yr holl gasgliadau eraill a gyfrennir fel rhan o’r ymgyrch i gynorthwyo pobl mewn gwahanol fannau yn ein byd.
Boed i Dduw fendithio’n rhoddion.
Fy nghofion cynhesaf atoch i gyd, Peter.
DARLLENIADAU: Mathew 8:28–34; 25:31–46
GWEDDI: Arglwydd, mewn byd o annhegwch ac anghyfiawnder a miloedd yn dioddef o ganlyniad i hynny; trwy erledigaeth a gormes, newyn a thlodi – gwrando’n heiriolaeth.
Cofia am ein byd, a llwydda bob ymdrech i unioni’r balans rhwng y rhai sydd a’r rhai sydd heb. Diolch i Ti am Fudiad Cymorth Cristnogol a’i nod i ddiwallu’r angen sydd yn y byd, a hynny nid yn unig drwy rannu nawdd a maeth ond trwy hyfforddi a chynorthwyo pobl i dyfu eu cynnyrch eu hunain.
Diolch i Ti am y gwahanol asiantau sy’n hybu’r cydweithio hwnnw ac yn estyn cyfle a chymorth. Cynorthwya ni hefyd i weld ein hunain, Arglwydd, yn rhan o’r bartneriaeth hon:
Ehanga ’mryd a gwared fi
Rhag culni o bob rhyw;
Rho imi weld pob mab i Ti
Yn frawd i mi o Dduw.
Rho inni’r awydd i gynorthwyo’n cyd-ddyn anghenus yn ei ddyhead am fara beunyddiol, am loches a dillad ac am yr hawl i fyw ei fywyd yn ddidramgwydd. Boed i’n cefnogaeth ni fod yn deilwng ohonom fel disgyblion i Ti. Diolchwn iti am ein cymell i gynnig mwy na bara beunyddiol yn unig; helpa ni i ymestyn o’n rhoddion mewn cariad ac yn enw’r Crist a ddywedodd ‘nad ar fara yn unig y bydd byw dyn, ond ar bob gair a ddaw o enau Duw’. Cynorthwya ni, O Dad, i gynnig, drwy ein hymroddiad a’n hymateb, fywyd yn ei holl gyflawnder.
Bendithia’r gwaith a llwydda bob ymdrech a boed inni weld ein rhoi a’n gwneud yn fodd i’th ogoneddu Di ac i ddwyn mawrhad i’th enw.
Gad imi weld dy wyneb-pryd
Yng ngwedd y llesg a’r gwael;
A gwrando’r cwyn nas clyw y byd,
Er mwyn dy gariad hael. (Nantlais)
Amen
GWEDDI’R ARGLWYDD