Geiriau i’n Cynnal: ‘Datguddiad’

Geiriau i’n Cynnal: ‘Datguddiad’

William Howells
gan William Howells

MYFYRDOD Y SUL WEDI’R YSTWYLL

GEIRIAU I’N CYNNAL: ‘Datguddiad’

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

 

Anwyliaid yr Anwel:

Wrth i mi fwrw trem tros ysgwydd y blynyddoedd mi fyddaf yn diolch am y profiadau a’r dylanwadau hynny a fu’n gyfrwng i gyfoethogi a chyfeirio fy nhaith. Bu treulio pedair blynedd yn lletya yn Hostel yr Eglwys ym Mangor yn ystod dyddiau coleg yn gyfle i gynefino â’r gwahanol wyliau eglwysig a bu mynychu’r gwasanaethau dyddiol yng nghapel yr hostel yn gymorth amhrisiadwy a bendithiol.

Hwn yw’r Sul wedi’r Ystwyll a chymwynas yr Ystwyll ydyw cyrchu i flwyddyn newydd gyffro a chyfaredd Gŵyl y Geni; i chwyddo’r fflam, fel petai, cyn ei diffodd tan y daw’r Nadolig unwaith eto i’r drws. A stori fythwyrdd y doethion o’r dwyrain sy’n rhoi amlygrwydd i’r digwydd. Y doethion a ddilynodd y Seren ar ei chyfodiad ac a ddaethant i addoli’r Un a aned ym Methlehem yn nyddiau’r brenin Herod.

Mi fyddwn yn dathlu’r Ystwyll ar y 6ed o fis Ionawr, deuddeg diwrnod wedi’r ’Dolig, y diwrnod y byddwn ni gan amlaf yn diffodd goleuadau’r goeden a diosg yr addurniadau. Ond yng ngwlad Sbaen yr Ystwyll yw Gŵyl y Tri Brenin ac ar y diwrnod hwnnw yn hytrach na’r Nadolig y bydd pobl yn cyfnewid anrhegion.

Yr Ystwyll yw man eitha’r ŵyl; cwta dair wythnos yn ôl, yr oeddem yn dal i ddisgwyl ei dyfodiad, ac er taw gŵyl wahanol ydoedd i lawer, mae bellach yn rhan o ddigwydd ddoe gan inni groesi rhiniog blwyddyn newydd.

Ond yna’n sydyn mae’n Ystwyll. Ystyr y gair yw datguddiad, ond fe olyga gymaint mwy na jyst canfod neu wneud yn hysbys, mae i’r datguddiad hwn asbri a rhyfeddod, a dyna yw cyfrinach yr Ystwyll. Fe rydd inni gipolwg o’r Duwdod mewn cnawd, o’r Creawdwr a gamodd i lwyfan ei greadigaeth.

Mae tystiolaeth Efengyl Mathew yn rhyw awgrymu fod y doethion wedi cyrraedd Bethlehem yn ddiweddarach na’r bugeiliaid o lethrau Jwdea, a bod y Seren a fu’n dywysydd iddynt ar eu taith wedi aros uwchlaw’r man y ganed y  mab bychan a’u bod wedi camu i’r, ac nid stabl, a chyflwyno eu hanrhegion drud i blentyn yn hytrach nag i faban.

Nodweddwyd taith y doethion o’r dwyrain gan droeon a threialon ac mae’n ymddangos taw taith ddigon bregus a pheryglus ydoedd mewn gwirionedd. Taith yn amddifad o’r canllawiau arferol o wybod pa lwybrau i’w cerdded a pha gyfeiriad i droi – taith fentrus, taith ar drywydd seren:

Y breiniol, siriol seren
Oedd yno, yn nithio’r nen,
A ddaeth â’r doethion i’th ddôr
A’u hanrhegion ar agor.   (PMT)

Taith i ganfod y Crist – yr Un a aned yn Frenin y brenhinoedd.

Wedi blwyddyn anodd a bregus gyda’i chyfyngiadau a’i gofidiau’n parhau i effeithio’n bywyd a’r haint yn dal ar gerdded, yr anogaeth yw i ni osod yr Un a aned gynt ym Methlehem yn nod i’n taith ninnau.

Yng nghofnod Mathew o ymweliad y doethion darllenwn: “canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain a daethom i’w addoli ef.”

Mae hynny’n awgrymu fod yna fwy na jyst canfod brenin newydd ei eni a rhannu iddo anrhegion wedi bod yn anogaeth i’w taith. Eu bwriad oedd talu gwrogaeth iddo a’i addoli: “Ac yna wedi iddynt gyrraedd y tŷ a gweld y mab bychan gyda Mair ei fam, hwy a syrthiasant i lawr ac a’i haddolasant ef.”

Maent yn cydnabod brenhiniaeth ac arglwyddiaeth yr Un a aned heb ddisgwyl dim yn ôl – roedd cael bod gyda Iesu a chamu i’w gwmni yn ddigon.

A man i gadw oed yw’r Ystwyll – man i gyfarfod â’r Un a oedd yn wrthrych gwrogaeth y doethion a phrofi trosom ein hunain yr epiffani hwnnw – sef y datgelu a’r amlygu a ddaw yn sgil ei ymddangosiad Ef. Cael camu i’w gwmni, syllu a rhyfeddu, plygu ac addoli.

Y mae Ioan yn agorawd ei efengyl yn cyffelybu’r profiad datguddiol hwnnw i un sy’n camu i oleuni: “Yr oedd y gwir oleuni sy’n goleuo pob dyn eisoes yn dod i’r byd, yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo … gwelsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr unig-anedig oddi wrth y Tad yn llawn gras a gwirionedd.”  (Ioan 1:9–14)

Mi fyddwn yn grwgnach yr adeg yma o’r flwyddyn fod y dyddie’n fyr a’i bod yn tywyllu’n gynnar. Ond ystyriwch am foment sut mae hi ar drigolion tref fechan Barrow yn nhalaith Alaska sydd wedi ei lleoli uwchlaw cylch yr Artic. Ar y 18fed o fis Tachwedd mi fydd yr haul yn mynd i’w orwel ac nid yw’n ymddangos wedyn tan y 24ain o fis Ionawr. Y mae echel y ddaear yn golygu eu bod heb oleuni’r haul am 65 niwrnod. Ond yna ar y 24ain o fis Ionawr mi fydd yna ddathlu mawr yn nhreflan Barrow oherwydd ar y diwrnod hwnnw mi fydd yr haul yn ailymddangos a’r goleuni yn dychwelyd.

Y mae’r proffwyd Eseia yn nodi: “Cyfod, llewyrcha, oherwydd y mae dy oleuni wedi dod; llewyrchodd gogoniant yr Arglwydd arnat.”

A dyna yw neges yr Ystwyll: fod y Goleuni wedi dod – wedi ei ddatguddio – a bod modd i chi a fi gamu i’w wawl a’i lewyrch.

Ar gychwyn blwyddyn boed inni ymddiried yn yr Un sy’n Ffordd, yn Wirionedd ac yn Fywyd ac yn ei oleuni ef gamu’n hyderus i bob yfory newydd a ddaw i’n rhan.

Bendith Duw a’i amddiffyn a fyddo i’n rhan.

Cofion cynnes, Peter.

DARLLENIADAU: Eseia 60:1; Mathew 2:1–12

GWEDDI: Arglwydd, diolchwn i Ti am ddatguddio dy hun inni yn Iesu Grist, a bod modd i ni, fel y doethion gynt, blygu a rhyfeddu a chyflwyno’n hunain iddo.

Helpa ni d’addoli,
Diolch am dy holl ddaioni Di
Ac am bob cymorth ddaw
Yn gyson o’th ddeheulaw.

Dyro i ni d’arweiniad,
Dangos inni beth yw dy fwriad Di,
A’th gwmni di bob awr
A wna y daith yn werthfawr.

Cymer di ein bywyd,
Cynnal ni yn ôl d’addewid Di;
Cysegra’n llawn bob dawn
Yn glod i Ti yn gyflawn.     (PMT)

GWEDDI’R ARGLWYDD