Geiriau i’n Cynnal: Sul Cyntaf y Grawys

Geiriau i’n Cynnal: Sul Cyntaf y Grawys

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Myfyrdod ar gyfer Dydd Sul, 21 Chwefror 2021

[Diolch i’r Parchg Judith Morris am y Myfyrdod isod]

Annwyl Gyfeillion,

Darlleniadau: Luc 4: 1–13; Luc 9:51.

Gweddi agoriadol: O Dduw ein Tad, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, diolchwn i Ti am gyfle newydd i’th addoli. Cynorthwya ni yn awr i agosáu atat ac i ymdeimlo â’th bresenoldeb. Tydi yw’r Duw sydd yn ein caru ac yr ydym oll yn werthfawr ac yn bwysig yn dy olwg. Dyro i ni brofi o’th arweiniad. Yn enw ein Harglwydd a’n Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

Myfyrdod: Ddydd Sul diwethaf, am y tro cyntaf ers 56 o flynyddoedd, arhosodd trên yng ngorsaf Bow Street ar ei ffordd o Fachynlleth i Aberystwyth. Dyma oedd diwrnod ailagor yr orsaf ar ei newydd wedd! Agoriad swyddogol tawel a gafwyd gan fod swyddogion Trafnidiaeth Cymru yn awyddus i sicrhau na fyddai tyrfa o bobl yn heidio i’r orsaf a chael eu temtio i dorri rheolau cyfredol Covid-19. Bu’r digwyddiad yn eitem newyddion ar y teledu a’r radio a chaed sylwadau di-ri ar y cyfryngau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at fynd ar daith o orsaf Bow Street yn y dyfodol agos!

Ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach yn y calendr eglwysig roedd hi’n Ddydd Mercher Lludw, sef cychwyn Tymor y Grawys, a chawsom ein hatgoffa am daith arall, sef taith ein Harglwydd Iesu i fyny i Jerwsalem. Meddai Luc: ‘Pan oedd y dyddiau cyn ei gymryd i fyny yn dirwyn i ben, troes ef ei wyneb i fynd i Jerwsalem …’. Dyma drobwynt Efengyl Luc.

Cyfnod o ddeugain niwrnod yw’r Grawys sy’n arwain i fyny at y Pasg pan ddethlir atgyfodiad Crist o’r bedd a’i fuddugoliaeth dros angau. Cawn ninnau hefyd gyfle i droi ein golygon o’r newydd i gyfeiriad Jerwsalem y dyddiau hyn ac i fyfyrio ar wythnosau olaf ein Harglwydd Iesu ar y ddaear, yn ogystal â chofio rhai o’r digwyddiadau ingol hynny, megis y weddi ddwys yng Ngethsemane, sefydlu’r Swper Olaf, y croeshoelio a’r atgyfodiad.

O Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd a’m Ceidwad cry’,
ymlaen y cerddaist dan y groes a’r gwawd heb neb o’th du;
cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam,
ni allodd angau’i hun ddiffoddi’r fflam.  (George Rees, 1873–1950)

Sut felly y gallwn ni ddefnyddio’r cyfnod hwn fel adeg o ymbaratoi wrth agosáu at yr wythnos bwysicaf yn y calendr Cristnogol, sef yr Wythnos Fawr? A ydym yn credu y bydd ychydig o baratoi yn gymorth inni yn ein bywydau ysbrydol wrth inni geisio treiddio’n ddyfnach i ymdeimlo â’r cariad pur a welwyd wrth i’r Arglwydd Iesu ildio’i fywyd trosom? Beth allwn ei wneud yn ymarferol?

Er mwyn ceisio uniaethu â phrofiad yr Iesu yn gwrthsefyll temtasiynau yn yr anialwch fe fydd rhai Cristnogion yn ymarfer disgyblaeth arbennig trwy ymwrthod â phethau melys dros gyfnod y Grawys. Bydd eraill yn penderfynu treulio llai o amser ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y We. Efallai mai darllen deunydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer y Grawys a wna’r mwyafrif ohonom a cheir pob math o adnoddau wedi’u paratoi gan rai o’r enwadau, mudiadau Cristnogol ac awduron unigol i’n cynorthwyo. Wrth gwrs, gellir troi at y Beibl a chanolbwyntio ar y penodau arbennig sy’n olrhain hanes dioddefaint Crist a threulio ychydig mwy o amser mewn gweddi. Syniad arall yw myfyrio uwchben un emyn bob dydd. Er ei bod bellach yn Sul Cyntaf y Grawys, nid yw hi’n rhy hwyr i ddechrau! Ond yn sicr, mae defnyddio tymor y Grawys fel cyfnod i baratoi ar gyfer dathlu’r Pasg yn ddisgyblaeth sydd yn medru dwyn ffrwyth yn ein bywydau ysbrydol.

Ond ym mha bynnag ffordd y byddwn yn treulio’r deugain niwrnod nesaf boed inni dynnu’n nes at Iesu ac at y cariad hwnnw a fu’n llosgi trosom ar Galfaria. Yn aberth yr Arglwydd Iesu gwelwn rym nad oes modd ei orchfygu a chariad sy’n mynnu dal ati er gwaethaf yr ymdrechion mwyaf creulon i’w dawelu a’i ddiddymu. Dyma gyfle inni ganolbwyntio o’r newydd felly ar y pethau hyn a’u harwyddocâd i ni heddiw fel y gallwn dystio i weithgarwch y grym dwyfol a’r cariad pur yn ein bywydau.

Tydi yw’r ffordd, a mwy na’r ffordd i mi, tydi yw ’ngrym:
pa les ymdrechu, f’Arglwydd, hebot ti, a minnau’n ddim?
O rymus Un, na wybu lwfwrhau,
dy nerth a’m ceidw innau heb lesgáu.  (George Rees, 1873–1950)

Gweddïwn: Diolch i Ti Arglwydd am y tymor arbennig hwn. Diolch am gyfle i fyfyrio o’r newydd ar arwyddocâd marwolaeth ac atgyfodiad Crist. Cynorthwya ni yn ystod yr wythnosau nesaf i droi ein golygon i gyfeiriad Jerwsalem ac i weld o’r newydd gariad a grym Crist ar waith yn ein bywydau ninnau.

Cofiwn am y rhai sydd yn cael bywyd yn anodd ac yn heriol ar hyn o bryd. Cyflwynwn hwynt yn dyner ac yn annwyl ger dy fron. Taena d’adain drostynt a dyro iddynt brofi o’th dangnefedd a’th ofal dwyfol.

Maddau inni ein holl feiau, ac am i ni dy siomi droeon. Cynorthwya ni i fyw bob amser yn unol â’th ewyllys gan gyflawni’r hyn sy’n gymeradwy gennyt.

Clyw ein gweddi a dyro inni o’th fendith.

Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân a fyddo gyda chwi oll. Amen.

 

Ymunwch â’r sgwrs

Peter M. Thomas
Peter M. Thomas

Diolch yn fawr Judith am fyfyrdod gwerthfawr ar Sul cyntaf y Grawys.