Geiriau i’n Cynnal: ‘Cariad’

Geiriau i’n Cynnal: ‘Cariad’

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Myfyrdod 14 Chwefror 2021

[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]

Anwyliaid yr Anwel,

Prin fod angen nodi arwyddocâd y diwrnod hwn o gofio’r dyddiad. Mae’n ddydd gŵyl Sant Ffolant – Gŵyl y Cariadon – ac er ei bod bellach wedi datblygu’n ŵyl seciwlar i bob pwrpas, y mae ei seiliau mewn gweithred aberthol. Merthyrwyd Sant Ffolant yn 269 O.C. yn ystod ymerodraeth Claudius, ond mae’r serch a’r cariad a amlygwyd rhyngddo ef a merch ceidwad y carchar wrth iddo aros ei dynged wedi goroesi’r blynyddoedd ac yn parhau i ysgogi’n cyfarchion a’n rhoddion ddeunaw canrif yn ddiweddarach.

Yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif hon darlledwyd cyfres o raglenni ar nos Sul ar donfeddi Radio Cymru yn ymdrin â geiriau a’u hystyron. Yr unigryw Twm Morys oedd yn llywio’r rhaglen, ac mi fyddech yn clywed llais yr actor (y diweddar, bellach) Stewart Jones – a ymgorfforodd y cymeriad hwnnw Ifans y Tryc ’slawer dydd – yn darllen yn goeth ac ystyrlon gynnwys y drydedd bennod ar ddeg o lythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid. Y bennod sy’n cychwyn gyda’r geiriau: ‘Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, a heb fod gennyf gariad, efydd swnllyd ydwyf, neu symbal aflafar …’ Ond wedi i ni glywed agorawd y bennod, mi fyddai lleisiau gwahanol i’w clywed wedyn yn darllen gweddill yr adnodau yn nhafodiaith eu bro a’u hardal. Yr oedd yr arbrawf yn un difyr a dadlennol a dweud y lleiaf. Ond yna wedi i bob datganiad orffen, mi fydde Stewart Jones i’w glywed yn darllen eto’r adnod glo: ‘Yr awron y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, a’r mwyaf o’r rhain yw cariad.’

Ie, ‘yn aros’ – yn sefyll yr un – yn ddiddarfod.

O ran mynegiant, y mae cynnwys y bennod hon gyda’r hyfrytaf o holl benodau’r Testament Newydd ac mewn byd o symud a chyfnewidiadau mawr, fe rydd inni’r sicrwydd fod ’na rai pethe’n aros yn ddigyfnewid.

Y mae’r bennod yn nodi pump o enghreifftiau o bethau y bydd pobl o bryd i’w gilydd yn rhoi gwerth arnynt ac yn awyddus i fod yn gyfrannog ohonynt.

Y cyntaf yw huodledd: ‘pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion’. Dawn yr areithydd, y ddawn i drin a chyfathrebu geiriau, i ddweud yn ysgubol a grymus; y gallu i berswadio ac argyhoeddi. Cafodd amryw feddiannu’r ddawn honno a’i sianelu er daioni weithiau, er drygioni dro arall. Yn eu plith y mae athronwyr, diwygwyr, militarwyr a gwleidyddion. Pobl â’r ddawn i symud cynulleidfaoedd trwy huodledd eu dweud.

Gwybodaeth yw’r ail beth: ‘a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth’. Y ddawn i ddeall ac i dreiddio trwy ddirgelion er mwyn canfod y gwirionedd. Dawn ydoedd a rannwyd i rai dethol ar un adeg; dawn a gyplyswyd â statws a sylw, a dawn a borthwyd ag arian a modd. Ond bellach daeth yr hyn a oedd gynt yn eiddo escliwsif yr ychydig yn eiddo’r mwyafrif trwy fanteision addysg a gwyrth technoleg gan gynnig, ar wasgiad botwm, doreth o wybodaeth dros rwydweithiau’r We.

Y mae’r trydydd rhinwedd yn dilyn yn dynn yn ei sodlau, sef proffwydoliaeth: ‘a phe byddai gennyf ddawn proffwydo a gwybod ohonof y dirgelion oll’. Y ddawn i ddarogan beth all ddigwydd – i rannu cyfrinach y dydd cyn iddo wawrio. Dyma diriogaeth yr entrepreneur, y mentrwr, a’r meddyg-sbin, y ddawn i rag-weld ffortiwn a cholled y farchnad stoc, i ddilyn hynt masnach ac i ganfod ei helynt cyn i’r helynt hwnnw ein cyrraedd.

Darllenwn yn Llyfr Cyntaf Cronicl i’r brenin Dafydd gynnwys ymhlith ei fyddin rai o lwyth Issachar, a dyma a ddywedir amdanynt – eu bod yn rhai a oedd yn medru ‘darllen yr amserau ac yn ymwybodol o’r hyn a ddylai Israel ei wneud’ (1 Cron. 12:32). Pobl oedd â’r gallu i ddirnad, i broffwydo ac i gynnig arweiniad. Yn feddiannol o’r ddawn i ddarllen yr amserau ac i ganfod y man lle’r ydym, a’r fan lle dylem fod, a’r modd i ni gyrraedd y nod.

Grym ewyllys yw’r peth nesaf – bod yr hyn yr ydych yn ei ewyllysio yn cael ei wireddu. Y grym a ddaw yn sgil statws ac awdurdod: ‘fel y gallwn hyd yn oed symud mynyddoedd’. Ac ma’na ddigon o enghreifftiau o bobl a lwyddodd trwy eu dyfais a’u dylanwad i gyrraedd y stad honno.

Ac yna’r peth olaf a ddeisyfir yw’r ‘gallu i ymddangos yn hael a rhinweddol gerbron y byd’, trwy ennill sylw, enw a pharch ein cyd-fforddolion: ‘a phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’w losgi, a hynny er mwyn ymffrostio’.

Ond er mor atyniadol ydyw’r rhinweddau yma, y mae iddynt i gyd eu cyfyngiadau, a byr yw eu parhad: ‘Proffwydoliaethau, fe’u diddymir hwy … gwybodaeth, fe’i diddymir hithau. Oherwydd amherffaith yw ein gwybod ac amherffaith ein proffwydo.’

Ond fe erys rhyw bethau’n ddigyfnewid, rhyw bethau na fedr rhawd y blynyddoedd eu difa na’u cyfyngu, ac ymhlith y pethau hynny y mae ‘ffydd, gobaith a chariad, a’r mwyaf o’r rhain yw cariad’.

Y mae Paul ar derfyn y bennod yn crynhoi’r dweud trwy ddatgan fod Cariad Cristnogol yn ei hanfod yn barhaol, yn gyflawn, yn anorchfygol.

Yn barhaol: pan fydd pob dim y mae pobl yn ymddiried ynddynt wedi dod i ben, mi fydd cariad yn sefyll.

Yn Llyfr Caniad Solomon yn yr Hen Destament (pen. 8: adn. 7) ceir yr addewid yma: ‘Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei foddi.’

‘Nid yw cariad yn darfod byth,’ medde Paul fan hyn: ‘mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.’

Y mae cariad hefyd yn gyflawn: ‘Yn awr, gweld mewn drych yr ydym a hynny’n aneglur ond yna cawn weld wyneb yn wyneb.’ I bobl Corinth roedd yna arwyddocâd yn y dweud hwnnw gan fod dinas Corinth yn enwog am gynhyrchu drychau o fetel sgleiniog, ond er cystal eu hansawdd a’u sglein roedd yr adlewyrchiad yn parhau’n aneglur. ‘Felly carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig anedig fab …’ meddai Ioan yn ei efengyl. Yn nyfodiad Iesu Grist i’r byd fe ddaw’r datguddiad yn eglur: ‘y neb a’m gwelodd i a welodd y Tad’.

Ac yna’r drydedd nodwedd a berthyn i gariad yw ei fod yn anorchfygol. Tystiolaeth y Testament Newydd yw mai ‘Duw Cariad Yw’ – y cariad nad yw’n oeri, y cariad sy’n bwrw allan ofn, yn cymodi gelynion; a byth, byth yn darfod. Fel y mae’r Duw sy’n ffynhonnell y Cariad yn anorchfygol, felly ni all dim ddileu gwir gariad. Er bod ffydd a gobaith yn nodweddion pwysig, eto ‘y mwyaf o’r rhain yw cariad’. Y mae ffydd heb gariad yn oer a gobaith yn ddi-rym. Cariad yw’r gwres sy’n meithrin ffydd a gwneud gobaith yn sicrwydd.

Gelwir arnom i adlewyrchu’r cariad hwnnw a’i fynegi mewn gair a gweithred.

Y mae i’r bennod hon ben a chynffon mewn penodau eraill. Y mae adnod glo’r ddeuddegfed bennod yn nodi: ‘yr wyf am ddangos i chwi ffordd ragorach fyth’, ac yna mae’r bedwaredd bennod ar ddeg yn cychwyn trwy ddatgan: ‘Dilynwch gariad yn daer.’

Ac onid hynny ddylai anogaeth a neges y Sul hwn fod yn ein hanes ni i gyd. Rhown y flaenoriaeth i gariad.

Pwy all fesur lled y cariad
Sydd yn nyfnder calon Duw?
Pwy all ddirnad beth yw’r uchder,
Beth yw hyd y ddyfais wiw?
Ond fe wn ar waetha’r holi
Ei fod yn fy nghofio i
Ac yn fy ngharu, ac yn fy ngharu
Fy Arglwydd cu.    (P.M.T.)

Gyda’m cofion a’m cyfarchion cynhesaf, Peter

Darlleniadau: 1 Corinthiaid pen. 13; Ioan 3:16–21

Gweddi: Arglwydd Dduw’r Cariad, gosod dy ddwylo clwyfedig mewn bendith dros dy bobl ymhob man, i’w cofleidio a’u cynnal; i’w hiacháu a’u hadfer, eu tynnu atat ti dy hun, ac at ei gilydd mewn cariad.

Arglwydd, gwna ni yn offeryn dy dangnefedd: lle bo casineb, boed i ni hau cariad; lle bo tramgwydd – maddeuant; lle bo anobaith – gobaith; lle bo anghydfod – undeb; lle bo tywyllwch, boed inni hau goleuni; lle bo amheuaeth – ffydd; lle bo tristwch – llawenydd. Er mwyn dy drugaredd a’th wirionedd. Yn Iesu Grist, Amen.

Gweddi’r Arglwydd