Myfyrdod ar gyfer Sul y Pasg 2021
[Diolch i’r Parchg Peter Thomas am y myfyrdod isod]
Anwyliaid yr Anwel,
‘Ffrwydrodd bom mewn bws yn Jerwsalem y bore ’ma gan ladd pump ar hugain o bobl.’
Fel yna y cyflwynwyd y newyddion ar donfeddi radio a theledu y bore Sul hwnnw. I lawer, roedd clywed am act arall o derfysgaeth mewn ardal bellennig o’r byd, ymhell, bell o libart eu hiard gefn hwy, yn ddim byd newydd a heb ennyn rhyw lawer o ymateb mae’n siŵr, ond i eraill bu’r newydd yn gyfrwng anesmwythyd a dychryn.
Mae sŵn y bom yn ffrwydro yn dal i acennu yn fy nghlustiau – roeddwn i yn Jerwsalem y bore Sul hwnnw. Yr oedd hi tua ugain munud i chwech; cawsom ein deffro’n sydyn gan y sŵn. Roedd terfysgwr wedi gosod bom ar fws yn cludo pobl i’w gwaith – lladdwyd pump ar hugain o bobl.
Hwnnw oedd diwrnod olaf ein harhosiad yn Jerwsalem – penllanw wythnos gofiadwy wrth i ni ‘sangu’r man lle sangodd Ef’. Wythnos a’i chwpan yn llawn o deimladau a phrofiadau a fyddai’n aros yn hir yn y cof.
Ond gwelsom yr wynebau trist ac ynghanol y gyflafan honno fe ddaethom yn ymwybodol o’n breuder a’n sefyllfa fregus.
Rywsut fe lwyddodd y tensiynau a’r tyndra gwleidyddol sy’n gyson bresennol yn y lle hwnnw i gyffwrdd â’n bywydau ni. Oni allai’n hawdd fod ffrwydriad wedi digwydd ar ein bws ni – i’n grŵp ninnau?
Dim ond deuddydd ynghynt yr oeddem wedi sefyll o fewn llathenni i’r lle y ffrwydrodd y bom a ninnau yn hwyr y prynhawn wedi ein tywys i fan nid nepell o Borth Damascus – i ardd brydferth ac ynddi fedd gwag.
Mae’r ardd wedi ei lleoli yng nghysgod craig a honno ar ffurf penglog – Golgotha yw enw’r lle, y man y credir i’r Crist gael ei groeshoelio, a’r bedd cyfagos mewn gardd, y fan lle y gosodwyd ei gorff i orwedd ar nos Wener y Grog.
Mae Gardd y Bedd Gwag yn fan tawel a thangnefeddus – yn fan i fyfyrio ac i weddïo, yn gyrchfan i bererinion gasglu ynghyd yn nhes y prynhawn. Ond fe ddaeth yn fan llofruddio ac yn fangre trais a marwolaeth.
Tarddodd hen ddialedd a gwrthdaro ar lonyddwch y lle ac ro’dd pobl yn gweiddi, yn sgrechain ac yn wylo yn y lle hwnnw.
Bu’r digwydd yn gyfrwng i greu ynom ofid a dychryn. Digwyddodd y peth ond rhyw dafliad carreg i lawr y ffordd o’r gwesty lle roeddem yn lletya.
Mae’n eironig ar un olwg ein bod wedi llwyddo yn ystod ein hamser yn Jerwsalem, wrth ymweld â’r mannau a gysylltwn â gweinidogaeth Iesu, i gau allan pob meddwl am drais a gwrthdaro, artaith a marwolaeth. Buom yn camu’n hamddenol yng ngwres yr haul dros lethrau Mynydd yr Olewydd ac yn edrych draw dros ddyffryn Cedron i gyfeiriad muriau’r ddinas, a chyda’n dychymyg yn drên buom yn dilyn y criw bychan hwnnw ’slawer dydd – yr un ar ddeg a Iesu ar y blaen – wrth iddynt wneud eu ffordd i lawr y grisiau o’r oruwchystafell, lle y rhannwyd swper y Bara Croyw; i Ardd Gethsemane a’i choed olewydd, lle y cawn Judas, a oedd wedi’i esgusodi ei hun o’r bwrdd, bellach wedi troi’n fradwr ac yn arwain mintai o filwyr i restio Iesu.
Yr oeddem wedi dringo’r codiad tir i mewn i’r hen ddinas a sefyll yng nghyntedd llys Caiaffas yr archoffeiriad ac wedi dwyn i gof y sham hwnnw o dreial a weinyddwyd yno.
Dringasom balmentydd y Via Dolorosa – ffordd y groes – a chamu i ganol berw’r marchnadoedd bychain a’u hogleuon sawrus sy’n ymylu’r ffordd, ond efallai heb synhwyro mai dyma’r union ffordd y llusgwyd Iesu arni unwaith, ei groen yn blingo o’r chwipiadau a chroesbren wedi cleisio ei ysgwydd a choron ddrain ogylch ei ben ac yntau ar ei ffordd i’w groeshoelio ar fryn tu fas i fur y dref.
Ond, rhywsut ynghanol dinistr a chyflafan y bore Sul hwnnw yn Jerwsalem, yn sgil ffrwydrad y bom, llwyddodd realiti oer dydd Gwener y Grog i’n cyffwrdd ni, ein hanesmwytho, a’n herio.
Mor hawdd yw i ni gamu yn ôl o ddigwyddiadau, i fod yn ddiduedd a di-gonsýrn, i basio’r ochr arall heibio, i osgoi’r cyfrifoldeb a’r dewis.
Ond y mae digwyddiadau’r Pasg hwnnw yn ein gosod ni yn y ffrâm – yn galw arnom ni i wynebu realrwydd y sefyllfa a thystio gyda’r Canwriad hwnnw wrth droed y groes: ‘yn wir, Mab Duw oedd y gŵr hwn.’ Taw ef yw’r Crist croeshoeliedig a fu farw trosom a thros ein pechodau ni. Mai ef yw’r Un a wireddodd broffwydoliaeth Eseia; ‘efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni; cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni …’
Shwd forthwyl o’dd e’, tybed, fu’n dyrnio’r hoelion dur?
Shwd hoelion o’dd y rhai fu’n brathu’r dwylo pur?
Shwd bren a gas ’i iwso i hongian Brenin Ne’?
Shwd ddrain a gaed yn goron a’i sigo yn ’i lle?
A beth a dda’th o’r pethe a iwswyd yno’n syn
I grogi T’wysog Bywyd ar fythgofiadwy fryn?
Mae’r ordd yn rhwd yn rhywle, a’r hoelion yn rhy frau
I gario llwyth cyn drymed, o bechod byd a’i fai;
A phydru wna’th y plethyn fu’n goron gylch ’i ben,
A rhan o lwch yr amser, mae’n siŵr, yw’r trawstiau pren.
Ond rhywsut maent yn atgof, na fyn yn angof fod
O’r hyn sy’n drech nag angau, ac iddo Fe ma’r clod.
A phan fydd rh’wyn yn holi – ‘Shwd bethe ro’ nhw wir?’
Drwy’r gêr fu ar Galfaria – da’th BYWYD– dyna’r gwir. (P.M.T.)
Yn y digwydd hwnnw y mae dirgelwch cred. Y groes yw canolbwynt ein ffydd. Fe ddengys yn glir nad dysgeidiaeth nac athrawiaeth na moeseg yw sail ein hymlyniad ond gweithred waredol Duw ar y groes. Duw yn achub y byd, yn ein prynu i fywyd trwy ei waed – ‘A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.’
Felly, nid holi’r cwestiwn ‘Beth y mae Duw yn ei geisio gennym?’ yw hanfod blaenaf ein ffydd, ond cydnabod yr hyn a wnaeth Duw trosom ni: ‘Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd iddo ef ei hun.’
Ef yw’r Un a fedr ddod i’n hymyl ni y Pasg hwn a’i air fydd yr un fu’n cymell gynt y deuddeg ’slawer dydd i fentro hynt eu bywyd arno ef.
Tybed a fydd ein clustiau ni yn ddigon agored i’w glywed, a’n llygaid i’w weld? A fydd y ffigwr unig hwnnw ar groesbren yn abl i gyffwrdd â’n bywydau ni a dod yn ffrind ac yn Waredwr i ni?
Ac a fyddwn ni ymhlith y rhengoedd hynny ar draws y byd fydd yn rhannu’r disgwyliad gogoneddus a ddaeth gyda gwawr y Trydydd Dydd? – ‘Yr Arglwydd a gyfododd, efe a gyfododd yn wir.’
Mae’r emyn ‘Were you there when they crucified my Lord?’ yn ein holi ni:
A oeddem yno pan groeshoeliwyd f’Arglwydd cu?
A oeddem yno pan yr hoeliwyd ef i’r pren?
Weithiau mae’n peri imi gryndod, cryndod, cryndod!
A oeddem yno pan osodwyd ef mewn bedd?
A oeddem yno pan gododd ef yn fyw?
Boed i realrwydd y Pasg a’i neges rymus am goncwest a buddugoliaeth dreiddio’n ddwfn i’n calonnau fel bod modd inni droi’n dystion o’r digwydd ac o Atgyfodiad Iesu Grist o’r bedd.
Bendithion y Pasg, cofion cynnes, Peter
DARLLENIADAU: Eseia 53; Mathew 28.
GWEDDI: ‘Yr Arglwydd a gyfododd, efe a gyfododd yn wir.’
O Dad, mawrygwn dy enw am genadwri Sul y Pasg, am fedd gwag ac Arglwydd Byw, Atgyfodedig, yn Waredwr a Gorchfygwr. Helpa ni i droi’n dystion o’r digwydd, i amlygu ei fywyd Ef yn ein bywydau ni ac i gyflwyno’r gobaith na fedr dim oll ein gwahanu ni oddi wrth dy gariad yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Amen.
GWEDDI’R ARGLWYDD