Yn ôl ym mis Ebrill 2020 aethom ati i sefydlu @CrefftwyrAberystwyth ar Facebook, sef marchnad ar-lein sy’n rhoi cyfle i gwsmeriaid bori stondinau 15 o artistiaid a gwneuthurwyr o ardal Aberystwyth, fel pe baent mewn ffair grefftau leol. Roedd ein digwyddiadau’n llwyddiannus iawn, ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom.
Flwyddyn yn ddiweddarach, dyma ni nôl eto i gynnal marchnad ddydd Llun Gŵyl y Banc, y 5ed o Ebrill, ar ein tudalen Facebook. Mae ein criw talentog wedi bod yn brysur yn creu stoc, a bydd gennym amrywiaeth o nwyddau ar werth: gwaith print, gemwaith, cynnyrch harddwch, gwaith pren a llechi, celf, serameg, a llawer mwy.
Mae marchnadoedd rhithiol wedi bod yn ffordd wych o ddysgu sut i addasu i werthu mwy o’n gwaith ar-lein a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol, gan gadw’r ysbryd cyfeillgar a’r gefnogaeth grŵp a gawn mewn digwyddiadau go-iawn. Codwyd arian hefyd at elusennau lleol drwy ofyn i’r stondinwyr i gyfrannu ffi a thrwy werthu tocynnau raffl. Llynedd, llwyddom i godi £2,800 i gyd, gyda’r arian yn mynd at Ysbyty Bronglais, Ambiwlans Awyr Cymru, Tarian Cymru, Elusen Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a’r Jubilee Storehouse.
Mae’r raffl yn gyfle i ennill hamper sy’n cynnwys eitem gan bob un o’r gwneuthurwyr sy’n cymryd rhan yn y ffair, ac mae cynnwys yr hamper y tro hwn yn werth ei weld! Felly ewch i wneud paned (ac i chwilio am weddillion eich hot cross buns a’ch wyau Pasg!), ac ewch ati i siopa o gysur eich soffa. Byddem yn falch iawn o’ch gweld!
@CrefftwyrAberystwyth