Eich barn chi ar ddatblygu Harbwr Aberystwyth?

Mae bron dros 25 mlynedd ers i ardal yr harbwr gael ei weddnewid. Nawr rwy’n ymchwilio mewn i’r cynllun diweddara i ddatblygu Harbwr Aberystwyth fel rhan o fy nghwrs Lefel A ac rwy’n awyddus i gael barn pobl leol ar y datblygiad.

gan Gruffudd Huw

Ym mis Hydref cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys grant o £10.9m i Gyngor Sir Ceredigion i adfywio’r ardal o’r Hen Goleg i’r harbwr yn Aberystwyth. Adroddodd BroAber360 bod y cynllun “yn gynnig cynhwysfawr ar gyfer ardal sydd â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ond sydd wedi cael ei hanwybyddu am gyfnod rhy hir”.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd y Cyngor y byddai mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.  Ond fe roddwyd cipolwg o’r cynlluniau mewn cyfarfod o Gabinet Ceredigion ym mis Mehefin. Nodwyd bod y cais yn amlinellu buddsoddiadau strategol gan gynnwys, “pontynau newydd, gwelliannau i Dŷ’r Harbwr, codi pont i gysylltu dwy ochr yr harbwr a datblygu cyfleusterau manwerthu, hamdden a masnachol pellach ar ochr ogleddol yr harbwr”.

Gwelliannau eraill a soniwyd amdanynt oedd uwchraddio/gwella’r goleuadau ar hyd y promenâd i leihau costau ynni ac allyriadau carbon, ynghyd â chyfle i osod mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.

Beth hoffech chi ei weld fel rhan o’r cynllun? Mae’n bosib y bydd ymgynghoriad swyddogol maes o law ond yn y cyfamser mae ‘na gyfle i chi roi eich barn trwy lenwi fy holiadur. Os nad yw eich syniadau wedi ei restri yn yr holiadur, mae croeso i chi anfon eich sylwadau mewn e-bost ataf ( GruffH@btinternet.com ).

I gwblhau’r holiadur ar-lein ewch i: https://forms.office.com/r/GMnpAg94Sw

Rwy’n edrych ymlaen at weld eich ymateb ac mi wnaf lunio erthygl arall yn crynhoi’r sylwadau.

Diolch yn fawr.