Dyfarniad rheoliadol safonol gan Lywodraeth Cymru i Gymdeithas dai Barcud

Canlyniad cadarnhaol i gymdeithas dai newydd a ffurfiwyd yn Nachwedd 2020

Derbyniodd cymdeithas dai newydd, Barcud, asesiad safonol gan Lywodraeth Cymru diwedd Mawrth 2021. Gellir gweld yr asesiad o ddilyn y linc yma. Safonol yw’r lefel uchaf o ddyfarniad gan Lywodraeth Cymru sydd yn asesu o weithredu statudol (lefel isaf), ymyrraeth, cynyddu a safonol (lefel uchaf).

Ffurfiwyd cymdeithas dai Barcud yn Nhachwedd 2020, yn dilyn uniad rhwng Tai Ceredigion a Thai Canolbarth Cymru.

Derbyniodd Cymdeithas Dai Canolbarth Cymru asesiad ym Mawrth 2019 oedd yn nodi fod risgiau yn cynyddu. Mae’r dyfarniad rheoleiddio yma ar gyfer Barcud yn disodli’r dyfarniadau blaenorol a gyhoeddwyd ar gyfer y ddwy gymdeithas dai.

Dywedodd y Prif Weithredwr Steve Jones

“Hwn yw’r dyfarniad rheoliadol interim cyntaf i Barcud ac mae asesiad safonol llawn yn galonogol iawn. Hoffwn ddiolch i’n cydweithwyr, cynrychiolwyr tenantiaid ac aelodau bwrdd gwirfoddol sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni’r uno dwy gymdeithas dai wahanol iawn. Mae wedi darparu llais cryfach dros dai gwledig yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru, gyda’r nod o adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd a chyrraedd targed o 5,000 o gartrefi erbyn 2025. “