Her 5 Dydd o Ffitrwydd

Codi arian a chefnogi Tŷ Hafan

Rhiannon Salisbury
gan Rhiannon Salisbury
3BD73A32-5DAB-46F7-A0EC

Llew yn mwynhau cerdded ar ddechrau’r her.

E91B05C9-4ADB-486A-9343

Elain James lawnsiodd yr her ar ddechrau’r hanner tymor.

Yn ystod wythnos gwyliau’r hanner tymor bu llawer o deuluoedd yn cefnogi’r Her 5 Dydd o Ffitrwydd gyda’r nod o gefnogi ymgyrch #FitForFuture Tŷ Hafan. Ymgyrch i godi £1.5 miliwn yw #FitForFuture er mwyn atgyweirio Tŷ Hafan a sicrhau ei fod yn addas ar gyfer plant sâl a’u teuluoedd ar gyfer y dyfodol. 

 

Mae’r ymgyrch bellach wedi codi dros 80% o’r swm angenrheidiol i uwchraddio’r hosbis. Mae’r gwaith a gwblhawyd eisoes yn cynnwys ystafelloedd gwely i’r plant a’r teuluoedd, lolfa deuluol ac ystafell therapi newydd. Gyda’r ymgyrch wedi cyrraedd cam olaf ei thaith bydd yr arian sydd eto i’w godi yn caniatáu gorffen ardaloedd cymunedol Tŷ Hafan. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf cafwyd dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein megis Hiit ac ioga ben bob bore gan wahanol ymarferwyr ffitrwydd – a hyn gyda’r nod o ysbrydoli teuluoedd i gadw’n actif yn ystod y gwyliau tra’n codi arian at yr achos.

Dywedodd Bridget Harpwood, mam Elain, ‘Mae Elain yn diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ac sy wedi cyfrannu at achos sy mor agos aton ni fel teulu.’

Ceir hanes pellach gan Bridget ei hun trwy ddilyn y ddolen yma: https://www.tyhafan.org/our-blog/2021/02/12/get-fit-with-mother-and-daughter-team-this-half-term/

Gellir cefnogi’r achos trwy ddilyn y ddolen isod, gan ddiolch o flaen llaw am bob cefnogaeth.

 

https://www.justgiving.com/fundraising/ApelElainFitForFuture?utm_campaign=lc_frp_share_transaction_fundraiser_page_donation_received_-_nth_donation&utm_content=b9b978db-12da-4b3c-9f48-3b4362e1ff72&utm_medium=email&utm_source=postoffice&utm_term=1613420280957&fbclid=IwAR3xFp0Bs1nLW1huR96kSzjOupD2b6TVW6X2NLHiTVN9QoG__cotWysx-R8